arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Crynodeb o hanes Pontypridd

Stori Pontypridd, o gludo haearn a glo i weithfeydd cadwyni a glofeydd a thwf y dref; ei henwogion a'i gorffennol disglair ym myd chwaraeon, i raglenni adfywio a wyneb newydd Ponty.

Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Dechrau ras seiclo broffesiynol ym Mharc Glyn...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Freddie Welsh (1886-1927), y pencampwr bocsio o...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

PONTYPRIDD

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Golygfa o Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Y bont ffordd 'newydd' a'r Hen Bont, Pontypridd...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Raswyr colomenod y tu allan i Westy'r Globe, Y...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

James Memorial, Ynysangharad Park, Pontypridd

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

British strike - extra fodder for pit ponies,...

Cyflwyniad

Mae Pontypridd wedi'i lleoli ar gymer afonydd Taf a Rhondda, ac yn borth cymoedd Caerdydd. Cafodd ei disgrifio gan yr awdur a nofelydd Gwyn Thomas yn 'Damascus y Cymoedd'. Mae'r dref yn enwog nid yn unig fel man geni Tom Jones ac anthem genedlaethol Cymru Hen Wlad fy Nhadau, ond hefyd am ei phont un bwa (o le daw ei henw) a Gweithfeydd Cadwyni Brown Lennox a gynhyrchodd angorau agerlongau mawr Brunel.

Mae tirnod hynaf Pontypridd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'yr Hen Bont'. Fe'i hadeiladwyd ynghanol y ddeunawfed ganrif gan William Edwards, ei bedwerydd ymgais i adeiladu pont droed un bwa dros Afon Taf. Yr Hen Bont oedd pont un bwa hiraf Prydain – 140 troedfedd – pan agorodd ym 1756 a pharhaodd yr hiraf tan y 1790au. Costiodd y fenter £1,150 i William Edwards ( £195,544 yn arian heddiw). Mae ei chynllun yn nodedig oherwydd y tri thwll silindrog o wahanol feintiau ar y naill ochr, ac mae hi wedi bod yn ddelwedd ganolog yn hunaniaeth y dref erioed.

Dyfodiad Diwydiant

Fel llawer o drefi a phentrefi yng nghymoedd De Cymru, mae datblygiad Pontypridd wedi'i gysylltu'n gryf â'r chwyldro diwydiannol. Pan agorwyd gweithfeydd haearn ym Merthyr Tudful, Dowlais a Hirwaun ger Aberdâr ynghanol ail hanner y ddeunawfed ganrif, daeth angen i gludo'r cynnyrch o flaenau'r cymoedd ac fe newidiwyd y cymunedau ar hyd y ffyrdd cludo'n llwyr.  Pontypridd oedd y canolbwynt rhwng Merthyr a Chaerdydd, ac fe wnaeth elwa'n arwyddocaol i ddechrau pan adeiladwyd ffordd dyrpeg ym 1771 ac yna Camlas Morgannwg a Rheilffordd Cwm Taf.

Dechreuwyd adeiladu Camlas Morgannwg ym 1790 ac fe gyflogwyd rhai cannoedd o ddynion fel labrwyr o dan gyfarwyddyd Thomas Dadford. Roedd cyfuniad o waith caled – roedd labrwyr yn gweithio deuddeng awr y diwrnod – ac yfed trwm wedi symud pridd a chraig i naddu hynt y gamlas ac adeiladu'r argloddiau ar hyd ei hymylon. Er gwaethaf adroddiadau am ymddygiad treisgar ymhlith y gweithlu, cwblhawyd y gamlas rhwng Merthyr a Phontypridd ym mis Mai 1792 a chyrhaeddodd Caerdydd llai na dwy flynedd yn ddiweddarach ym mis Chwefror 1794. Ar y pryd roedd Pontypridd yn ardal wledig, heb fawr o bobl. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, soniodd yr awdur teithio Benjamin Heath Malkin am 'yr undod o'r gwyllt gyda ffrwythlondeb' a welodd yno.

Yn fwy na dim, roedd Pontypridd yn y 1790au a dechrau'r 1800au yn fan am seibiant a chael diod ar y daith rhwng y trefi haearn a'r dociau yng Nghaerdydd. Daeth tafarndai fel y Bunch of Grapes Inn, a adeiladwyd tua 1800 yn fan poblogaidd. Roedd ei safle wrth ochr y gamlas yn arbennig o ffodus, oherwydd yn llai nag ugain mlynedd yn ddiweddarach agorwyd Gweithfeydd Cadwyn Brown Lennox, a fyddai'n trawsnewid Pontypridd yn llwyr.

Dechreuwyd ar waith adeiladu'r Gweithfeydd Cadwyni ym 1816 ac fe'i cwblhawyd ym 1818. O fewn chwe blynedd roedd bron mil o dunelli o gynnyrch haearn yn cael ei gludo ar hyd y gamlas o'r gweithfeydd ym Mhontypridd i'r dociau yng Nghaerdydd; erbyn 1839 roedd y ffigur hwnnw wedi codi i 4,000 o dunelli. Crëwyd miloedd o swyddi gan dwf cyflym Brown Lennox a'r diwydiannau a'i gyflenwai a daeth miloedd lawer o bobl i fyw a gweithio yn y pentrefan gwledig gynt.

Y Brenin Glo

Yn ogystal â'r symiau aruthrol o lo, haearn a chynnyrch diwydiannol arall a deithiai drwy Bontypridd ar hyd y ffordd dyrpeg, y gamlas a'r rheilffordd, roedd gan y dref ei phyllau glo'i hun, gyda glofeydd yn y pentrefi cyfagos fel Cilfynydd a rhai'n agosach i ganol y dref fel 'Dan's Muck Hole' ym Mhwll-gwaun a Glofa'r Maritime ym Maes-y-coed. Datblygwyd pyllau glo Pontypridd mewn dau gyfnod. Y cyntaf oedd yn y 1840au a'r 1850au pan gloddiwyd Glofa'r Maritime ym 1841, Glofa Trecelyn ym 1844, Glofa Tŷ Mawr ym 1848, a Glofa'r Great Western ym 1851. Adlewyrchodd yr ail gyfnod ehangiad mawr y Rhondda yn y 1870au a'r 1880au pan agorwyd Dan's Muck Hole a Glofa'r Naval ym Mhen-y-graig ym 1875 a Glofa'r Albion, Cilfynydd ym 1884.

Yr Anthem Genedlaethol a Chwm Rhondda

Y mae efallai'n briodol fod y ddwy gân enwocaf i ddod o Bontypridd - Hen Wlad fy Nhadau a Cwm Rhondda - yn cysylltu traddodiadau chwaraeon, crefydd a iaith y dref mewn ffyrdd y gall ychydig iawn o ddiwylliannau poblogaidd eraill. Cyfansoddwyd Hen Wlad fy Nhadau gan Evan James a'i fab James ym mis Ionawr 1856, a'i henw gwreiddiol oedd Glan Rhondda. Er ei phwysigrwydd cenedlaethol heddiw, mae ei geiriau'n sôn cymaint am dirwedd Pontypridd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ag am y genedl ei hun. Daeth y gân yn boblogaidd yn sydyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar ddechrau'r 1860au wedi iddi gael ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol 1858 yn Llangollen. Sicrhawyd ei statws yn anthem genedlaethol drwy ei chanu mewn cynulliadau gwlatgar yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac efallai'n fwy arwyddocaol, pan ganwyd hi gan y dyrfa yn y gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Chrysau Duon Seland Newydd. Dyma oedd y tro cyntaf i anthem gael ei chanu cyn gêm, ac roedd yn gynsail i'r hyn sy'n digwydd ymhobman heddiw.

Mae gan Cwm Rhondda, ar y llaw arall, ei gwreiddiau yn y diwylliant capel a ddatblygodd yng Nghymru yn ystod diwedd y ddeunawfed a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd yr emyn ei gyfansoddi gan John Hughes ym 1907 yn dilyn cais oddi wrth arweinydd Capel Bedyddwyr Rhondda yn Hopkinstown am emyn newydd i'w ganu mewn gŵyl gerdd a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd y flwyddyn honno. Mae'n eironig, o ystyried ei phwrpas gwreiddiol, nad yw Cwm Rhondda yn enwog fel emyn capel ond fel cân sy'n cael ei chanu mewn gemau rygbi a phêl-droed gan dyrfaoedd brwd. Gorchmynnodd y Parch. Elvet Lewis, yr Archdderwydd o 1924 i 1928, iddi gael ei gwahardd o gapeli gan ei bod yn cael ei chanu ar feysydd pêl-droed. Heddiw mae Cwm Rhondda, neu Bread of Heaven, fel mae hefyd yn cael ei hadnabod, yn cael ei chanu'n falch gan gefnogwyr rygbi Cymru ledled y byd.

Chwaraeon

Mae effaith Pontypridd ar y byd chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn sylweddol iawn o ystyried ei phoblogaeth gymharol fach. Roedd clwb rygbi'r dref, a sefydlwyd ym 1878, yn un o'r un clwb ar ddeg gwreiddiol a gyfarfu yng ngwesty'r Castle yng Nghastell-nedd ym mis Mawrth 1881 i ffurfio Undeb Pêl-droed Cymru (Undeb Rygbi Cymru o 1934). Cafodd Edward Treharne, blaenwr 19 oed o Bontypridd, ei ddewis i chwarae i dîm rhyngwladol cyntaf Cymru a wynebodd Lloegr yn y gyfres o gemau cartref y mis cynt. Roedd pob chwaraewr arall yn y tîm naill ai o Gaerdydd neu o Gasnewydd.

Yn nyddiau cynnar rygbi yn y Cymoedd, chwaraewyd y gêm yn bennaf gan bobl ifanc proffesiynol: roedd Treharne yn hyfforddi i fod yn feddyg, roedd David Llewelyn, ei frawd Ack, a James a William Spickett i gyd yn gyfreithwyr. O'r diwedd daeth dynion ifanc dosbarth gweithiol yn fwy blaenllaw, fel Jack McKenzie a oedd yn heddwas lleol. Am lawer o'r ugeinfed ganrif, fel y rhan fwyaf o glybiau rygbi yn y Cymoedd, roedd Pontypridd yn dîm rygbi dosbarth gweithiol yn chwarae o flaen cefnogwyr dosbarth gweithiol.

Ar y dechrau, roedd Clwb Rygbi pontypridd yn chwarae gemau ar Gaeau Ynysangharad ac yn defnyddio cyfleusterau ystafell newid tafarn y Butchers Arms ar Taff Street. Yna, ym 1890, gwnaed y penderfyniad i gael ei faes ei hun, ac fe symudodd y clwb i Barc Cwm Taf yn Nhrefforest drwy gydol y 1890au. Bu dadleuon gyda pherchnogion Parc Cwm Taf, a oedd yn awyddus i'w ddatblygu'n fan chwaraeon aml-bwrpas, a bu rhaid i'r clwb chwarae ar faes bach People's Park ar Mill Street. Dychwelodd y clwb am gyfnod byr i Barc Cwm Taf tua 1905 ac yna treuliodd sawl degawd yn chwarae yn Ynysangharad. Yn y 1970au, pan adeiladwyd ffordd yr A470, symudodd Clwb Rygbi Pontypridd i'w gartref presennol yn Sardis Road.

Ym myd criced, Pontypridd oedd y dref gyntaf i gael ei dewis gan Glwb Criced Sir Forgannwg i gynnal gêm sir dosbarth cyntaf yng Nghymru yn lle canolfannau traddodiadol Caerdydd ac Abertawe. Cynhaliwyd y gêm gyntaf ym Mharc Ynysangharad, a agorodd ar Ŵyl Banc mis Awst 1923, ar 3-6 Gorffennaf 1926 pan chwaraeodd Morgannwg yn erbyn Swydd Derbyshire. Dair blynedd yn ddiweddarach, y gwrthwynebwyr oedd De Affrig. Enillodd Parc Ynysangharad enw drwg am fod yn un o feysydd cricet gwlypaf Prydain, ac erbyn dechrau'r 1970au roedd y clwb wedi cael digon. Ond rhwng 1926 a 1969, roedd y sir wedi chwarae o leiaf un gêm bencampwriaeth sir ym Mhontypridd bob blwyddyn (ar wahân i'r Ail Ryfel Byd). Ar wahân i Barc yr Arfau a Gerddi Sophia yng Nghaerdydd a St Helen's yn Abertawe, nid yw'r un maes arall wedi bod mor bwysig yn natblygiad criced sir yng Nghymru.

Mae gan paffio, y gelf fonheddig, efallai'r lle mwyaf arbennig yn hanes Pontypridd, ac wedi dod â chlod i'r dref nad yw chwaraeon eraill. Roedd y capeli'n condemnio awch y dosbarth gweithiol am rygbi a phaffio. Porwch drwy gopi o The Great Gatsby gan F. Scott Fitzgerald a dilynwch stori nid cymeriad ffuglennol ond brodor o Bontypridd: Frederick Hall Thomas.

Cafodd ei eni ym 1886 yn fab i John Thomas, arwerthwr lleol, ac Elizabeth Hall, merch perchennog gwesty ym Merthyr. Daeth Frederick Hall Thomas i'r byd yn aelod o'r dosbarth canol cysurus. Aeth i ysgol breswyl. I ddechrau aeth i'r ysgol yn lleol, ond wedi marwolaeth John Thomas anfonwyd Freddie i Ysgol Fonedd Long Ashton ym Mryste. Aeth ei addysg, fel cymaint o bethau eraill yn ddiweddarach yn ei fywyd, ag ef i ffwrdd o'i dref enedigol a'i wahanu oddi wrth ei gyfoedion, yn cynnwys y paffwyr Jimmy Wilde o Tylorstown, Frank Moody o Bontypridd, a Jim Driscoll o Gaerdydd.

Yn ystod ei blentyndod byddai'n dianc i strydoedd garw Y Graig. Roedd Frederick Hall Thomas wedi dilyn olion traed ei dad-cu: paffiwr heb fenig o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd cystadlaethau ar gopaon bryniau Aberdâr, Merthyr a Rhymni mor ffiaidd ag yr oedd paffio'n fonheddig. Roedd yn ymladd yn yr ysgol ac yn aelod o gang a amddiffynai ardaloedd Pontypridd rhag dieithriaid, a byddai'n yfed yn y Bunch of Grapes. Flynyddoedd yn ddiweddarach byddai'r Graig yn ganolbwynt paffio ym Mhontypridd pan ffurfiwyd Graig Athletic and Boxing Club yng ngwesty'r Rose and Crown ym 1920. Cyn a thu ôl i'r enwogrwydd a newidiodd Frederick Hall Thomas, y bachgen dosbarth canol a addysgwyd mewn ysgol fonedd, yn Freddie Welsh, pencampwr paffio'r byd, Cymro – Americanwr, roedd byd dosbarth gweithiol maes glo de Cymru.

Ym 1903, yn 16 oed, gadawodd Freddie Pontypridd i geisio'i lwc ym mheithiau Gorllewin Canada. Fel llawer o'i gyfoedion, cafodd Freddie ei ddenu gan yr erthyglau a gyhoeddwyd wythnos ar ôl wythnos yn y Pontypridd Observer, y Glamorgan Free Press, a'r Rhondda Leader. Nid oedd ei antur yng Nghanada yn llwyddiant mawr ond fe ddechreuodd ymddiddori mewn magu cyhyrau a chael ei ysbrydoli gan Bernarr Mac Fadden. Ond roedd yn hiraethus, a dychwelodd adref ar ôl blwyddyn.  Roedd y llanc 17 oed yn anesmwyth yn byw adref, ac wedi cael arian eto oddi wrth ei fam a chwsmeriaid tafarn y Bridge Inn croesodd yr Iwerydd unwaith eto.

Hwyliodd o Lerpwl i Efrog Newydd ar 29 Mehefin 1904 ar daith gyntaf yr RMS Baltic, ac fe gyrhaeddodd yn Ellis Island fel pobl ddi-rif eraill o'i flaen. Tra oedd yn byw yn America ac yn cael trafferth dod o hyd i waith cyson, teithiodd Freddie ar y rheilffyrdd Dakota yn byw fel crwydryn. Yn y pendraw cafodd gynnig swydd yn hyfforddwr paffio yn Efrog Newydd. Roedd yn cysgu yn y gampfa ac yn ennill $1 y diwrnod, ac yma oedd y sefyllfa ddelfrydol i ddilyn ei ddiddordeb yn athrawiaethau MacFadden. Roedd yn paffio mewn gornestau amatur ac yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd. Yn y pendraw derbyniodd Freddie gymhellion ei ffrindiau i fynd yn baffiwr proffesiynol ym 1905. Roedd yn 19 oed.

Wedi iddo gael swydd newydd yn hyfforddwr yn Philadelphia, daeth Frederick Hall Thomas – Freddie Welsh bellach - yn fwy amlwg ym myd paffio Philadelphia ac yn ehangach yn yr Unol Daleithiau yn y ddwy flynedd nesaf. Ym 1907, dychwelodd Freddie Welsh i Brydain wedi iddo glywed bod ei fam yn ddifrifol wael. Wrth iddo ddychwelyd ar y cwch o Efrog Newydd penderfynodd Welsh baffio yn ei famwlad lle'r oedd yn parhau'n anhysbys, hyd yn oed ymhlith dilynwyr selog.

Cynhaliwyd ei ornest gyntaf yng Nghymru yng Nghlwb Park Gymnastic Club ym Mhontypridd ar 17 Ebrill; arddangosfa ddawn yn hytrach na gornest go iawn. Ymladdodd Welsh dri o baffwyr nad oeddent hanner cystal ag ef. Daeth gornest well fis yn ddiweddarach yn erbyn Johnny Owens o Aberaman ond enillodd Welsh diolch i'w sgiliau Americanaidd. Uchafbwynt y daith i Brydain oedd ym Mhontypridd ar 3 Hydref 1907 pan frwydrodd a churodd Gunnar Hart ac Arthur Ellis yr un noson. Byddai'n dair blynedd cyn i Welsh ddychwelyd i'w dref enedigol.

Roedd haf 1910 yn un aflonydd: y tawelwch cyn y stormydd, terfysgoedd ac aflonyddwch y bobl yn yr hydref a'r gaeaf. Cyrhaeddodd Freddie Welsh Gaerdydd ar 19 Mehefin ac fe gafodd ei groesawu gan dyrfaoedd mawr o gefnogwyr ac edmygwyr. Roedd ceir agored wedi'u trefnu i gludo Welsh ar hyd y ffordd o Gaerdydd i Bontypridd.  Roedd tua 80,000 o bobl ar y strydoedd i weld Tywysog Pontypridd yn dychwelyd adref eto.

Wrth i'r haf droi'n hydref a dechreuodd anghydfod y Cambrian Combine yn y Rhondda, trodd sylw dynion ifanc Pontypridd a thu hwnt i'r ornest rhwng Peerless Jim Driscoll a Freddie Welsh gerllaw, ar 20 Rhagfyr. Treuliodd Welsh fisoedd yr hydref yn paratoi yn y gampfa uwchlaw gwesty'r Clarence yn Station Square, Pontypridd. Roedd yn hyfforddi o flaen cynulleidfaoedd mawr, ac yn codi tâl mynediad bychan ac yn rhoi'r holl arian i Gronfa Apêl Ysbyty Pontypridd.  Roedd mor llwyddiannus byddai'r Gronfa'n cynnal gornestau paffio ym Mharc Cwm Taf ar ddiwedd y 1920au er mwyn codi arian i gynnal yr Ysbyty. Byddai'r gornestau hyn, yn cynnwys allforyn paffio arall o Bontypridd i America, Frank Moody, yn sicrhau y byddai'r Ysbyty'n goroesi'r Dirwasgiad Mawr.

Cyfarfu Freddie Welsh a Jim Driscoll yn yr American Roller Rink yn Westgate Street, Caerdydd. Roedd yr adeilad, a agorodd ym 1908, yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd gwleidyddol, hoci, ac i'r bobl leol ddysgu i ddawnsio'r walts ar esgidiau rholio. Pum niwrnod cyn Nadolig 1910, ymgasglodd 10,000 o bobl i wylio Jim Driscoll a Freddie Welsh yn brwydro am wobr o £2,500. Enillodd Welsh pan gosbwyd Driscoll am dro sâl wedi iddo wylltio oherwydd dowcio Welsh. Ar ddiwedd yr ornest aeth y dyrfa'n wyllt: tynnodd ffotograffwyr y wasg luniau o'r haid o bobl ar unwaith .

Ym mis Gorffennaf 1914, daeth Freddie Welsh yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd, teitl a gadwodd tan fis Mai 1917. Cyn gynted ag yr enillodd yn yr Unol Daleithiau, hwyliodd am Brydain ac arddangos y gwregys i'r tyrfaoedd yng Nghymru. 'Rwy'n hapus iawn fy mod wedi dod â'r teitl yn ôl i Gymru', dywedodd mewn digwyddiad ym Merthyr Tudful. Ar draws y cyfandir yn Sarajevo, cychwynnodd bwled bradlofrudd cyfres o ddigwyddiadau a anfonodd Ewrop, erbyn dechrau mis Awst, i mewn i'r Rhyfel Mawr. Gyda chymorth cyfaill ar y White Star Line, dychwelodd Welsh a'i deulu i'r Unol Daleithiau ar y llong RMS Olympic. Denodd y penderfyniad feirniadaeth oddi wrth rhai nad oedd Welsh wedi ymuno â'r Fyddin ynghyd â'i gydwladwyr.

Erbyn 1914, wrth gwrs, roedd Freddie Welsh yn fwy o Americanwr na dim arall – siaradai fel Americanwr, gwisgai fel Americanwr, ac roedd yn paffio fel Americanwr. Yn y pendraw ymunodd â Byddin yr Unol Daleithiau yn Is-gapten ym 1917. Gwasanaethodd yn Ysbyty Walter Reed yn Washington DC yn helpu milwyr a oedd wedi'u hanafu i ymadfer. Pan adawodd ym 1920 roedd yn Gapten. Mewn llawer o ffyrdd, roedd dechrau'r Rhyfel Mawr yn drobwynt yng ngyrfa Welsh – yr uchafbwynt a'r fforch yn y ffordd. Mae'n adlewyrchu'r gymdeithas o le y daeth. Ym 1913, roedd cynnyrch glo Cymru a'r nifer o ddynion roedd y diwydiant yn eu cyflogi ar ei anterth. Byddai'r llithr i lawr i Welsh ac i'w Bontypridd frodorol yn boenus. Bu farw Freddie Welsh yn 41 oed ar 28 Gorffennaf 1927. Cafodd ei ddarganfod gan forwyn mewn gwesty tlawd yn Efrog Newydd lle'r oedd yn byw. Roedd yn gorwedd ar ei wyneb yn ei ddillad nos. Dywedodd y meddyg a ddaeth i gofnodi'i farwolaeth ei fod wedi cael trawiad ar y galon, canlyniad blynyddoedd o yfed trwm a byw mewn tlodi.

Rasio cŵn

Ar ddiwedd y 1920au, daeth Pontypridd yn gartref i ddau o'r tri sbort masnachol a gyrhaeddodd Prydain yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd: rasio milgwn a rasio beiciau modur. Ni ddaeth y trydydd, hoci iâ, i Gymru tan y 1980au. Roedd gan Bontypridd ddau drac cŵn – agorodd y cyntaf ym Mharc Cwm Taf ym 1928 ac agorodd ail stadiwm filgwn bwrpasol yn Y Ddraenen Wen ym mis Mawrth 1932. Roedd y chwaraeon, yn enwedig rasio milgwn, yn cynrychioli buddsoddiad arwyddocaol o arian yn yr ardal leol: costiodd trosi Parc Cwm Taf ar gyfer rasio tua £25,000, ac roedd yn golygu gosod y trac, gwelliannau i'r eisteddle, a phrynu cytiau cŵn. Roedd hyn yn ogystal â chostau cyflogau a gofynion gwasanaethau milfeddygon, heddlu a chynnal a chadw.

Daeth arwyr chwaraeon newydd fel Tom Lougher i Bontypridd pan ddechreuwyd rasio beiciau modur ym Mharc Cwm Taf ym 1929. Roedd Lougher yn enwog am reidio gyda thîm 'Hammers' West Ham ar ddechrau'r 1930au. Daeth yn enwog wrth rasio ar ei drac lleol yn Nhrefforest. Roedd yn feiciwr medrus, ac fe blesiodd y tyrfaoedd am ddwy flynedd cyn i rasio beiciau modur a milgwn ym Mhontypridd farw yn sgil realiti ac anawsterau economaidd y Dirwasgiad Mawr.

Ochr dywyll bywyd ym Mhontypridd yn Oes Victoria

Roedd safle Pontypridd wrth droed cymoedd Taf a Rhondda'n tueddu i roi teimlad cosmopolitan i'r dref farchnad. Gellid dod o hyd i'r holl bethau hynny y byddai'r gweinidogion capel yn eu condemnio yn eu pregethau, fel meddwi, paffio a phuteindra, yno. Pan waharddodd llywodraeth Ryddfrydol Gladstone yfed ar y Sul ar wahân i mewn clybiau preifat ac i deithwyr go iawn, teithiodd y dynion mentrus o drefgorddau'r Rhondda fel Y Porth ar y trên i orsaf Pontypridd i ardal o'r enw'r Tymbl. Mae tafarndai'r unfed ganrif ar hugain yn hyrwyddo'r syniad y cafodd y Tymbl ei henw o'r talpau o lo a gwympai oddi ar y dramiau wrth iddynt deithio i Ddociau Biwt yng Nghaerdydd. Mewn gwirionedd, mae'r enw'n awgrymu ochr dywyllach o Bontypridd yn Oes Victoria a'r Oes Edwardaidd.

I'r bobl leiaf ffodus yn y gymdeithas, yn enwedig yr henoed a'r bobl a oedd yn ddi-waith am gyfnodau hir, roedd y wyrcws yn cynnig ffurf o les sydd wedi ennill enw drwg yn bennaf oherwydd y straeon erchyll a ysgrifennwyd gan newyddiadurwyr a nofelwyr fel Charles Dickens yn nyddiau cynnar y sefydliad.  Cawsant eu creu fel canlyniad i Ddeddf Newydd y Tlodion 1834, ac roedd y wyrcws yn sefydliad a gynlluniwyd i sicrhau bod y rheini a oedd yn derbyn cymorth yn cael eu cadw rhag segura. Codwyd Wyrcws Pontypridd ym 1865 am gost o £7,000. Roedd yn wreiddiol yn adeilad siâp 't', ond erbyn 1900 roedd wedi ehangu ac yn cynnig digon o le i dros 300 o drigianwyr. Goroesodd adeiladau'r wyrcws wedi'u hehangu tan y 1960au ac roeddent yn ffurfio rhan o Glafdy'r Graig (Ysbyty Dewi Sant yn ddiweddarach).

Canlyniad: Tua'r Dyfodol

Wedi cau glofeydd a dad-ddiwydiannu, daeth Pontypridd yn symbol o'r newid poenus i lawer yng nghymoedd De Cymru. O'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gyda diwydiant trwm yn graidd yr economi i fyd ôl-ddiwydiannol gyda'r pwyslais ar y diwydiant gwasanaethol. Mae'r daith i lawr yr allt mewn esgidiau hoelion wedi cael ei disodli gan daith ddyddiol mewn car neu ar y bws neu'r trên i mewn i Gaerdydd a thu hwnt. Gostyngodd y dyheadau ar ôl y rhyfel a oedd unwaith yn amlwg yng Nghanolfan Siopa Cwm Taf, erbyn y 1980au a'r 1990au, yn adeilad darfodedig, brwnt a drewllyd a oedd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn ei osgoi.

Mae Pontypridd, fel cymaint o'r maes glo blaenorol, yn wynebu nifer o heriau yn yr unfed ganrif ar hugain. Fe fydd rhaglenni adfywio canol y dref ac adfer adeiladau hanesyddol yn arddangos yr wyneb ffres newydd. Ond ni all guddio'r broblem fwyaf oll – dod o hyd i ddiwydiannau newydd i ddisodli'r rheini a gynigiodd gwaith i'r miloedd lawer o bobl a ymgartrefodd ym Mhontypridd dros y ganrif a hanner diwethaf.

Sylwadau (3)

Darlun grankay
I cannot seem to download the text of this document. Is it because it has to travel from Wales to America? I could download the pictures, which I very much appreciate. Can someone help me, please?
Darlun Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Thanks for your comment & interest. Stories are not in a downloadable form unfortunately, but you could highlight the text (by running your cursor over it while holding down the left button on your mouse) and then right clicking and copying the highlighted text. You could then paste the text to a blank document. Please remember to acknowledge the copyright owner of anything you reuse for personal or research use (non-commercial), this article was written by Daryl Leeworthy, who is a native of Pontypridd. Each item (except some stories at the moment) on the site has copyright information. Good luck with your research and let us know if that works ok - Helen (Moderator). More on our terms of use are are the bottom on the page.
Darlun martyn williams GW0OUV
DOES ANYONE HAVE ANY PICS OF THE RAINBOW RECORDS SHOP IN PONTYPRIDD THIS WAS MY REGULAR LUNCHTIME HAUNT EVERY FRIDAY WHEN I WORKED AT STEINBERGS IN THE 70S. ID LIKE PICS OF RAINBOW RECORDS AND - HOW ARE YOU MY FRIEND - LEIGHTON THE OWNER / PROPRIETER. I CAN BE FOUND ON FB - MARTYN WILLIAMS - Im still a massive record collector / genesis, floyd, stones, 10cc, lone star, the who wings lenon and van morrison to name but a few !

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw