Hanes Aberteifi yn fyr

Eitemau yn y stori hon:

Dechreuad y dref a'r castell




Adeiladwyd castell Normanaidd pren gan Gilbert de Clare ym 1110. Dros y ganrif nesaf brwydrodd y Cymry a'r Normaniaid i reoli'r castell. Ym 1165 arweiniodd Rhys ap Gruffydd, neu Arglwydd Rhys, brenin Deheubarth, brwydr Crugmawr a threchu'r Normaniaid. Meddiannodd y castell oddi wrth fab de Clare ac yna'i ailadeiladu o garreg a morter.



Cynhaliodd Arglwydd Rhys yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Aberteifi yn ystod 1176 i ddathlu cwblhau ailadeiladu'r castell. Yn dilyn ei farwolaeth rheolwyd y castell unwaith eto gan y Normaniaid nes i Lywelyn Fawr ymosod arno. Yna aeth y castell i feddiant y Normaniaid, ac yna'r Cymry, nes i'r Normaniaid eu trechu yn y 1240au, pan ailadeiladwyd y castell unwaith eto. Gellir gweld adfeilion dau dŵr a gorthwr newydd y castell heddiw. Adeiladwyd muriau carreg y dref ym 1244.



Tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg hawliodd brenin Edward I Gastell Aberteifi a bu cyfnod o heddwch am rai canrifoedd. Ymosododd Oliver Cromwell ar y castell yn ystod y Rhyfel Cartref ym 1645. Difrodwyd y castell yn ddifrifol ac fe barhaodd yn anghyfannedd tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.



Ym 1808 adeiladodd John Bowen blasty Georgaidd o fewn muriau Castell Aberteifi, ar seiliau'r gorthwr, a defnyddio tŵr crwn o'r drydedd ganrif ar ddeg. Gwnaed newidiadau pellach gan Arthur Jones, yr Uchel Siryf, ym 1827.



Yn 2001 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Adeiladau Cadwgan (gweler www.cardigancastle.com) gyda'r bwriad o gadw ac adfer Castell Aberteifi a'i adeiladau cysylltiedig. Roedd y cais dros gadw ac adfer y castell yn rownd derfynol y rhaglen deledu 'Restoration' y BBC sy'n cael ei chyflwyno gan Griff Rhys Jones.