Y Fyddin Rufeinig ar Ymgyrch
Llwythau ffyrnig ac ystyfnig Cymru
Daeth ymdaith ddi-ildio'r Rhufeiniaid ar draws de Prydain yn dilyn glaniad Claudius yn 47 OC i stop sydyn pan ddaeth y milwyr wyneb yn wyneb â'r ucheldiroedd a llwythau ffyrnig ac ystyfnig Cymru. Ymdrechodd y Rhufeiniaid am 30 mlynedd i drechu'r Deceangli, Ordovices a'r Silures, a llwyddo yn 77 OC yn y pendraw pan orchfygwyd gwrthryfel olaf yr Ordovices gan Agricola, Llywodraethwr Prydain Rufeinig o 77 i 85 OC.
Gellir gweld natur yr ymgyrch caled a symudol iawn hwn yn olion gwersylloedd cyrch y goresgynwyr sydd wedi goroesi ledled Cymru. Cawsant eu hadeiladu i letya byddin ar daith, ac fel arfer gydag ymgyrch un tymor mewn golwg, mae tua 30 wedi cael eu darganfod yng Nghymru hyd yn hyn. Mae amrediad o feintiau, mae rhai'n 1.3 hectar a'r mwyaf yn 20 hectar, ond maent yn nodweddiadol yn sgwâr gyda chorneli llyfngrwn. Mae'r amddiffynfeydd fel arfer yn syml, gyda ffos a rhagfur, ond gyda threfn fynedfa gymhleth.
Darganfyddiadau Cyntaf
Un o'r safleoedd mwyaf ysblennydd yw Y Pigwn ar gopa mynydd Trecastell yn Sir Frycheiniog, sydd tua 400 metr uwch lefel y môr. Yma mae dau wersyll dilynol yn gorgyffwrdd. Gellir gweld olion gwrthgloddiau ffos a rhagfur y ddau wersyll yn glir, er bod un ochr wedi'i ddinistrio'n rhannol wrth i bobl chwarelu am garreg deils yn ddiweddarach. Adeiladwyd amddiffynfeydd o'r fath i amgáu ardal fawr o dir ar gyfer pebyll y cadlywyddion a'r milwyr a'u hoffer.
Y ddau wersyll yn Y Pigwn oedd y cyntaf yng Nghymru i'w cofnodi, ac fe'u disgrifiwyd gan yr hynafiaethydd Thomas Rees yn y 1850au. Maent yn cynrychioli gwahanol ymgyrchoedd gan y fyddin Rufeinig yn ne Cymru yn y ganrif gyntaf OC – roedd yn well gan raglawiaid adeiladu gwersylloedd o'r cychwyn yn hytrach nag atgyfnerthu hen rai. Mae'r gwersyll cynharaf, mwy, yn amgáu 15 hectar, ac mae'r gwersyll mwy diweddar, 10 hectar, mwy neu lai'n ffitio'r tu mewn iddo. Nodwedd o'r ddau wersyll yw'r bwa hanner-cylchog o ffos sy'n amddiffyn y naill fynedfa, sy'n cael ei alw'n clavicula. Roedd y rhain yn arwain ymwelwyr i'r ochr, gan ddatgelu'u hystlysau diamddiffyn i'r milwyr a oedd yn diogelu'r glwyd. Unwaith y tu mewn i'r gwersyll, byddai ymwelwyr wedi gweld rhesi ar resi o bebyll wedi'u gosod mewn trefn, gydag uned (contubernium) o wyth o ddynion yn cysgu ym mhob pabell.
Olion Cudd
Mae'r olion cnydau cymhleth yn Walton yn nwyrain Sir Faesyfed yn dangos sut mae llawer o'r gwersylloedd wedi datgelu'u hunain. Mae pridd ffosydd yn llawer mwy cyfoethog a llaith na'r pridd o'u cwmpas, sy'n caniatáu gweld siapau safleoedd wedi'u claddu'n fanwl. Yn y lleoliad hwn, gellir gweld siâp eglurdau wersyll cyrch sgwâr, wedi'u troshaenu gan redfa gylchol fwy diweddar, ynghyd â thrydydd gwersyll yn gyfagos, a dau arall tua 600 metr i'r gogledd. Maent yn gasgliad pwysig o safleoedd sy'n cynrychioli cyfres o ymgyrchoedd i fyny Cwm Arwy ac i mewn i ucheldiroedd Cymru.
Scapula yn erbyn Caratacus
Mae'r gwersyll anarferol yn Nhwyn-y-briddallt wedi'i adeiladu i gydymffurfio â siâp y grib lle mae wedi'i leoli, uwchlaw Cwm Rhondda ym Morgannwg. Byddai golygfeydd ardderchog o gymoedd Aman, Aberdâr a Rhondda Fach o'r grib hon, ac mae'n rhoi manylion gwerthfawr am symudiadau'r fyddin Rufeinig yn ystod ei hymdrechion i drechu'r Silures, y llwyth a oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o gymoedd De Cymru a Bro Morgannwg. Roedd yr ymgyrch yn erbyn y Silures yn ei anterth yng nghyfnod llywodraeth Scapula (47 – 52 OC), a oedd yn ymladd y gwrthwynebwr mwyaf rhamantus Prydeinig, Caradog (Caratacus). Cafodd ef ei orchfygu yn y pendraw mewn brwydr i'r gogledd, yn nheyrnas yr Ordovices, ym 51 OC.
Darganfyddiadau Newydd
Mae safleoedd yn parhau i gael eu darganfod a'u cofnodi. Darganfuwyd y gwersyll yn Nhrefal yn Sir Feirionnydd ym 1987 drwy gymysgedd o awyrluniau ac arolwg tir. Mae'n wrthglawdd isel ar dir gwlyb, ac mae arwyddion ffiniau caeau diweddarach ar ran ohono. Darganfyddiad diweddar arall yw gwersyll gwrthglawdd syfrdanol Pen Blaenau yn Sir Ddinbych. Mae lleoliad y gwersyll hwn yn dangos ymdaith byddinoedd yn y ganrif gyntaf Oed Crist ac yn datblygu'n bellach ein dealltwriaeth am ymgyrchoedd y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Cyfrannwyd y stori gan: CBHC
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment