Darganfod a chloddio fila Rufeinig yn Abermagwr yn 2010
Eitemau yn y stori hon:
Fila'n cael ei dangos mewn awyrluniau
Cartref statws uchel
Roedd filâu Rhufeinig yn gartrefi statws uchel tirfeddianwyr cyfoethog ynghanol stâd ffermio. Maen nhw'n gyffredin yn ne Lloegr ac i raddau llai yn ne-ddwyrain Cymru, gydag un neu ddwy yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac un ynghanol blaenau Afon Wysg. Dangosodd cloddiadau prawf ym mis Gorffennaf 2010 fod gan y fila yn Abermagwr holl addurniadau filâu mewn mannau eraill, gan gynnwys to llechi a ffenestri gwydr. Roedd gan yr adeilad brif bloc gyda thair prif ystafell yn mesur 22m o'r dwyrain i'r gorllewin ac 8m o'r gogledd i'r de, gyda feranda a dwy alae neu asgell ymestynnol ar yr ochr ddeheuol. Ychwanegwyd ystafell fechan yn mesur 5m x 4m at gefn yr adeilad yn ddiweddarach. Roedd llechi lleol ar y to ond roedd y rhain yn bumonglog, gyda phum ochr a min er mwyn ffurfio to addurnol iawn, sy'n gyffredin ymhlith filâu yn ne-orllewin Lloegr ac Ynys Wyth. Adeiladwyd y muriau o garreg leol ar seiliau cobl er efallai byddai'r llawr uchaf (os oedd un yn bodoli) wedi'i hadeiladu gyda ffrâm bren ac wedi'i phlastro. Roedd buarth cobl o flaen y fila. Mae adluniad newydd o'r adeilad yn defnyddio tystiolaeth a ddarganfuwyd yn ystod cloddiadau 2010. Mae'n debyg yr oedd adeiladau eraill, yn cynnwys ysgubor y stâd, yn sefyll yn y buarth ond nid oes tystiolaeth amdanynt.
Y Cloddio
Roedd yr holl waith maen o seiliau'r muriau wedi cael ei ladrata ac roedd ffosydd wedi'u palu i lawr i'r seiliau llawn clai a cherrig. Daethpwyd o hyd i garreg chwarel a llechi to cyflawn ac wedi'u torri o'r lladradau yn lefelau uwch y safle, wedi'u cymysgu â haenau cwymp gwreiddiol. Efallai i'r lladradau ddigwydd pan adeiladwyd plasty Trawsgoed cyfagos yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gan fod tystiolaeth enwau lleoedd yn dangos bod y fila'n adfail yn y canol oesoedd. Ni ddaethpwyd o hyd i dystiolaeth argyhoeddiadol hyd yn hyn am unrhyw loriau mosaig neu blastr wal. Roedd llawr clai yn y brif Ystafell 2 (ganolog), ynghyd â'r feranda, lle'r oedd aelwyd gydag ymylon carreg ar yr ochr orllewinol. Datgelwyd tystiolaeth o sawl aelwyd arall yn Ystafell 2, gyda mannau wedi'u llosgi'n ulw ar y llawr clai. Efallai mai sgwatio diweddarach oedd yn gyfrifol amdanynt, er y daethpwyd o hyd i lestr goginio Rufeinig wedi torri yno ynghyd â diferion plwm, efallai'n ganlyniad o waith diwydiannol o ryw fath.
Darganfyddiadau, a gwaith pellach yn 2011
Er i'r gaer Rufeinig gyfagos yn Nhrawsgoed gael ei gadael erbyn 130 OC, mae darganfyddiadau o'r fila'n dangos meddiannaeth ar ddiwedd y drydedd a dechrau'r bedwaredd ganrif OC, yn dangos meddiannaeth barhaus, neu ail-feddiannaeth yn ddiweddarach, yn y dirwedd hon. Mae darganfyddiadau'n cynnwys darnau llestri Llathredig Du a phowlenni llestri coeth o Swydd Rhydychen. Roedd tri darn arian o Oes Constantine I, a fathwyd yng nghwarter cyntaf y bedwaredd ganrif OC, yn hanfodol ar gyfer dyddio'r safle. Fe'u darganfuwyd yn gorwedd ar neu'n agos at wynebau lloriau clai o dan y to llechi cwympiedig. Ni fyddai'r cloddiad wedi mynd cystal heb gymorth a chefnogaeth perchennog y tir, Huw Tudor, a diddordeb y gymuned leol. Ymwelodd disgyblion tair ysgol gynradd leol â'r cloddiad, o Lanilar, Llanafan a Llanfihangel-y-creuddyn, a hefyd y Clwb Archeolegwyr Ifanc lleol. Mae cynlluniau i ddychwelyd at y safle yn 2011 i ateb cwestiynau sy'n parhau o hyd: am ddyddiad sail yr adeilad a phresenoldeb neu beidio o weithgaredd yno cyn adeiladu'r fila. Hefyd archwilio'r aelwydydd a mannau llosgedig yn y brif ystafell yn ddyfnach, a dyddio ffosydd y llociau allanol yn dilyn absenoldeb deunydd dyddio o'r cloddio yn y ffos yn 2010.
Mae'r darganfyddiad yn codi cwestiynau arwyddocaol newydd ynglŷn â'r economi lleol a chymdeithas ar ddiwedd Oes y Rhufeiniaid yng Nghymru. Mae hefyd yn codi'r tebygolrwydd o ddarganfyddiadau filâu eraill ym mherfeddwlad canolbarth a gogledd Cymru, efallai o ganlyniad ailasesu llociau anarferol a wyddys amdanynt o awyrluniau sydd ar hyn o bryd heb eu dyddio neu'n anodd eu dosbarthu.
Jeffrey Davies aToby Driver, RCAHMW