Billybanks, Penarth
Billybanks, Penarth
Roedd y Billybanks yn stad cyngor ym Mhenarth a godwyd ar ddiwedd y 1960au i safonau uchel 'Parker Morris' y cyfnod. Roedd gan stad Billybanks olygfeydd gwych dros Fae Caerdydd, ac un bloc ar bymtheg deulawr a phedwar llawr yn gartrefi i tua 600 o bobl. Roedd ar un adeg yn cael ei disgrifio'n 'galon ac enaid' Penarth, ond yn ei blynyddoedd diffaith roedd y safle'n hyllbeth ac yn 'erchyllter'. Ym 1998 gwnaed penderfyniad i wagio'r fflatiau. Yn fwy diweddar, mae'r blociau o fflatiau gwag wedi cael eu dymchwel ac mae'r safle ar hyn o bryd yn cael ei ailddatblygu.
Adeiladu'r Billybanks
Partneriaeth Syr Percy Thomas a'i Fab – penseiri ac ymgynghorwyr Cyngor Trefol Dosbarth Penarth ar ddechrau'r 1960au - oedd yn gyfrifol am ddatblygu Billybanks. Erbyn canol y 1960au, roedd tri safle ar y bryn uwchlaw'r harbwr wedi'u dewis i'w datblygu: y cyntaf i'w adeiladu arno oedd darn o dir pum erw ar Harbour View Road. Datblygwyd y ddau arall, wedi'u lleoli'n is i lawr y bryn, ychydig yn ddiweddarach.
Harbour View Road
Dechreuodd gwaith adeiladu ar safle Harbour View Road ym mis Mai 1966 drwy osod ffyrdd. Adeiladwyd y blociau cartrefu o fis Hydref y flwyddyn honno yn y gobaith o orffen y gwaith erbyn Ebrill 1968. Y gyllideb amcangyfrifedig oedd bron £700,000. Roedd un bloc ar bymtheg yn cynnwys 194 annedd ar wahân. Byddai'n cynnig llety i rhwng 550 a 600 o bobl. Y bwriad oedd y byddai terasau pedwar llawr yn bennaf yn cynnwys fflatiau a rhai fflatiau deulawr, yn cynnig darpariaeth i amrywiaeth o deuluoedd o wahanol feintiau.
Trefnwyd y blociau cartrefu mewn pedair uned fawr, linol ar gopa'r bryn. Roedd chwe bloc tebyg wedi'u trefnu ar ongl sgwâr ar hyd y tir ar osgo i'r de o Harbour View Road. Roedd gan bob un buarth garddluniedig ac roeddent wedi'u cysylltu â lleoedd parcio yn arwain at waelod Chichester Road. Roedd grisiau allanol yn arwain at y fflatiau a'r fflatiau deulawr felly roedd gan bob uned ei drws blaen ei hun. Gwnaed darpariaeth benodol ar gyfer yr henoed gyda llety i un ar bymtheg o breswylwyr mewn fflatiau un ystafell. Adeiladwyd y rhain mewn pedwar bloc deulawr ar wahân ar hyd ochr ddeheuol Harbour View Road.
Adeiladwyd holl adeiladau'r datblygiad hwn i safonau Parker Morris y 1960au gyda chroesfuriau brics, lloriau concrit rhwng y fflatiau, a gosodiadau safonedig. Roeddent yn cael eu cynhesu gan unedau aer cynnes hunangynhwysol. Yn y buarthau roedd grwpiau o dai golchi a sychu, mannau chwarrau, gerddi unigol bychain, yn ogystal â thirluniau gerddi addurnol ac ardaloedd i gerddwyr yn unig. Dyma yn y bôn a adeiladwyd, o frics llwyd, gyda lloriau concrit a thoeau ar ongl teils concrit. Roedd gan yr ystafelloedd byw balconïau rheiliau. Roedd gan y chwe bloc ar y tir ar osgo dair garej yr un o dan yr isloriau'n wynebu Chichester Road. Roedd bloc pedwar llawr ar wahân ar ben gorllewinol Harbour View Road o'r un cyfnod ac yn debyg iawn.
Prince Charles Court, Paget Road
Cwblhawyd Prince Charles Court ar ochr ogleddol Paget Road ar ddechrau'r 1970au. Roedd wedi'i adeiladu o frics llwyd gyda lloriau concrit a thoeau ar ongl teils, ar draws tir ar osgo. Roedd teras pedwar llawr gyda fflatiau deulawr, ac roedd mynediad atynt drwy ardal wasanaeth a grisiau canolog yn arwain at ddau deras ar hyd ffasâd y gogledd. Roedd gan y fflatiau deulawr gegin ac ystafell fyw gyda balconi rheiliau i'r ystafell fyw, a grisiau i'r ystafell faddon a'r ystafelloedd gwely. Roedd 32 uned i'r gorllewin a 21, mwy o faint, i'r dwyrain. Roedd gan amrediad pedwar llawr tebyg yn ffinio'r pen dwyreiniol derasau mynediad ar bob llawr ar gyfer 43 o fflatiau llai.
Royal Close
Roedd Royal Close yn cynnwys tri bloc o derasau pedwar llawr a fflatiau deulawr. Mae blociau'r rhan yma o Billybanks wedi'u henwi'r Prince Edward, Prince Llywelyn a Prince Rhodry. Fe'u cwblhawyd ar ddechrau'r 1970au ac roedd hefyd canolfan gymdeithasol ar wahân.
Er i bopeth gael ei adeiladu i safonau uchel Parker Morris y cyfnod, arbedwyd arian drwy ddefnyddio gosodiadau a manylion safonedig, a ganiataodd arbed arian wrth swmp-brynu. Sicrhaodd arbedion a enillwyd o unffurfiaeth y gallai'r cyngor fforddio adeiladu'r cartrefi rhatach a amlinellwyd yn y cytundeb ar gyfer y cynllun datblygu cychwynnol a gyhoeddwyd ym 1967. Wedi iddynt weithio'n llwyddiannus yn Royal Close, dyblygwyd manylion y cynlluniau a'r nodweddion safonedig yn y datblygiadau dilynol yn Billybanks.
Roedd Billy Banks yn ysbrydoliaeth i artistiaid
Roedd trigolion yn ystyried Billybanks yn gymuned ddiogel, fywiog a chyfeillgar a “chalon ac enaid” Penarth. Yn edrych dros Fae Caerdydd, roedd gan falconïau'r fflatiau olygfeydd ysblennydd, ac roedd mannau ymgynnull ac i blant chwarae. Ond yn raddol, dechreuodd yr adeiladau ddirywio ac yn aneconomaidd i'w huwchraddio i safonau heddiw. Gwnaed penderfyniad i ailddatblygu'r safle ym 1998 gan Gyngor Bro Morgannwg, ac roedd y rhan fwyaf o'r cartrefi'n wag erbyn 2002. Cafodd y bobl a oedd yn symud allan addewid cynnig dychwelyd i'r datblygiad newydd.
Yn ei blynyddoedd diffaith, cafodd ei disgrifio'n stad hyllaf Cymru ac yr “erchyllter”. Er hynny, neu efallai o'i herwydd, daeth yn ysbrydoliaeth i artistiaid, ffotograffwyr, cynhyrchwyr ffilm a cherddorion, yn cynnwys y canwr a'r gitarydd John Lewis. Recordiwyd ei CD, 'The Billy Banks Sessions,' yn fyw yn un o'r fflatiau meddianedig olaf yn 2011; y ffotograffydd Michael Napier a enillodd Gwobr Goffa Brian Ross yn 2001 am ei lyfr “Billy Banks”, sy'n cynnwys tystiolaeth a ffotograffau trigolion, ac a ellir eu gweld ar ei wefan; a'r artist Daniel Roberson, sydd wedi darlunio'r stad mewn cyfres o beintiadau olew realist, sydd ar hyn o bryd wedi'u harddangos yn sioe ôl-radd Ysgol Gelf Aberystwyth.
Dymchwel a datblygiad newydd Penarth Heights
Ym mis Mai 2002 penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg fod: “y Cyngor yn cymeradwyo adfywiad y safle drwy waredu â'r tir drwy'r opsiwn Gwaredu Safle Cyfan Rheoledig”. Wedi cyfres o oediadau, nid oedd tan fis Mai 2007 pan basiodd y cyngor gais i ddymchwel y stad. Dechreuwyd ar ddymchwel safleoedd Paget Road a Royal Close ym mis Mehefin 2010, ac yn y pendraw yn 2011, wedi i'r trigolion olaf symud allan, gwastatawyd safle Harbour View Road.
Ym mis Mai 2007 pasiodd y cyngor gais i ddymchwel ac adeiladu 377 uned breswyl; fe fyddai 20% ohonynt yn 'fforddiadwy'. Mae'r datblygiad newydd, Penarth Heights, gan Crest Nicolson, gyda'r Penseiri Edward Cullinan. Agorodd y pencampwr paffio o Gymru Joe Calzaghe y cartref arddangos pum ystafell wely yno ym mis Gorffennaf 2011.
Fel rhan o'r fargen, fe fydd arian yn cael ei wario ar gelf gyhoeddus, cyfleusterau addysg, gwella ffyrdd a chynlluniau eraill lleol. Mae prosiectau'n cynnwys adfer Eglwys St Paul, £800,000 tuag at gyfleusterau cymunedol, £1.5 miliwn tuag at gyfleusterau addysg, a symiau tebyg ar gyfer isadeiledd a chludiant cynaliadwy.
Dywedodd preswylydd hirdymor, a symudodd i'r Billybanks ym 1981, mewn cyfweliad i'r Penarth Times: 'Mae wedi bod yn anodd gwylio'r stad yn dirywio dros y blynyddoedd, fel teulu, mae gennym atgofion arbennig am yr hen le; roedd ysbryd cymunedol gwych yno. Roedd y fflatiau'n hyfryd ac rwy'n gobeithio bydd y datblygiad newydd cystal. Byddai'n braf meddwl y gallai fy ŵyr fforddio prynu un o'r cartrefi newydd un diwrnod.'
Cyfeiriadau:
Arolwg adeiladu gan Geoff Ward, CBHC, 2010
Cofnodion Cyngor Bro Morgannwg ac atodiadau'n ymwneud â Penarth Heights:
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/our_council/council/minutes,_agendas_…
http://www.valeofglamorgan.gov.uk/files/Our%20Council/Council/reports/c…
John Lewis, cerddor: http://therealjohnlewis.com/
Michael Napier, ffotograffydd: http://www.michaelnapier.co.uk/
Daniel Roberson, artist: http://www.danielroberson.co.uk/ArtistGallery.php?view=preview&image=50…
Penarth Times: http://www.penarthtimes.co.uk/
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment