Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (‘Gwenynen Gwent ’) (1802-1896)

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,893
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,227
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,532
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,298
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Ganwyd Augusta Waddington ar 21 Mawrth 1802, y ieuengaf o chwe merch Benjamin Waddington (1749-1828) a'i wraig Georgina Port, (1771-1850), Tŷ Uchaf, Llanofer, Sir Fynwy. Derbyniodd Augusta a’i chwiorydd addysg eang, ac roedd y teulu wedi teithio'n eang ym Mhrydain Fawr ac Ewrop.

'Big Ben'

Priododd y gwleidydd a'r diwydiannwr Benjamin Hall o Abercarn a Hensol ym 1823. Bu Benjamin Hall yn Aelod Seneddol am 22 mlynedd cyn cael ddyrchafu i Dy’r Arglwyddi yn 1859. Yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd Gwaith y Llywodraeth, goruchwyliodd gastio a gosodiad cloc mawr Westminster, ac enwyd y cloc yn ‘Big Ben’ i gydnabod ei gyfraniad.

Llenyddiaeth a Diwylliant

Mae Arglwyddes Llanofer yn fwyaf adnabyddus fel un o brif noddwyr y diwylliant gwerin Cymreig. Daeth ei chartref yn Llys Llanofer yn ganolbwynt diwylliannol pwysig i feirdd, llenorion a cherddorion, a rhoddwyd pwyslais arbennig ar yr iaith Gymraeg a dulliau traddodiadol o fyw o fewn yr ystâd. Ffafrïodd gyflogi Cymry Cymraeg fel gweision, mynnodd wasanaethau Cymraeg yn eglwys Llanofer, a sicrhaodd fod y Gymraeg yn cael ei dysgu yn nwy ysgol Llanofer. Noddodd y Welsh Collegiate Institution yn Llanymddyfri, cynorthwyodd Ieuan Gwynedd yn ei waith o gychwyn y cylchgrawn merched Y Gymraes, a rhoddodd gefnogaeth ariannol i Daniel Silvan Evans pan oedd yn paratoi ei eiriadur aml-gyfrol. Gwaddolodd ddwy eglwys Galfinaidd, capeli Rhyd-y-meirch ac Aber-carn, ble y cynhaliwyd gwasanaethau yn y Gymraeg, ond ar sail litwrgi y Llyfr Gweddi Gyffredin, a throes dafarndai'r ardal yn westai dirwestol.

Mae cyfraniad mwyaf Arglwyddes Llanofer yn gysylltiedig ac eisteddfodau Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Ymunodd â'r Cymreigyddion ym 1834, a chyd-drefnodd a noddodd ddeg eisteddfod liwgar, gan ariannu cystadlaethau, yn enwedig canu'r delyn deires a thecstiliau Cymreig. Arglwyddes Llanofer oedd un o brif hyrwyddwyr y delyn deires fel offeryn cenedlaethol yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Atgyfododd y traddodiad o gadw telynor teulu, rhoddodd ysgoloriaethau i ddisgyblion i ddysgu canu'r delyn yn Llanofer, a chomisiynodd offerynnau i'w roi i delynorion haeddiannol. Gwnaeth y delyn deires, neu'r delyn Gymreig, yn offeryn swyddogol Eisteddfodau'r Fenni.

Cedwai Arglwyddes Llanofer draddodiadau'r Fari Lwyd a'r Plygain yn Llanofer, a chystadlodd ei chôr, Cantorion Llanofer, mewn eisteddfodau, a pherfformiodd ganeuon gwerin adref ac yn Llundain. Trefnodd ddawnsfeydd yn Llanofer er mwyn parhau traddodiad y ddawns werin Gymreig, a pherfformir ‘Rîl Llanofer’ hyd heddiw. Cynorthwyodd, noddodd a chyfeiriodd waith y casglwr alawon gwerin Maria Jane Williams, Aberpergwm hefyd.

Y Wisg Gymreig

Enillodd gystadleuaeth y traethawd gorau ar ‘The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh Language and National Costumes of Wales’ yn Eisteddfod Frenhinol a Gŵyl Gerddorol Dyfed a Mynwy yng Nghaerdydd ym 1834 dan ei henw barddol ‘Gwenynen Gwent’. Ffurfiodd y traethawd, â'r albwm National Costumes of Wales a briodolir iddi, y sylfaen i'r wisg genedlaethol Gymreig i ferched a menywod a welir mewn dathliadau cenedlaethol. Gwisgai Arglwyddes Llanofer y wisg Gymreig hon bob dydd Sul ac ar achlysuron cyhoeddus, roedd ei gweision hefyd yn gorfod ei gwisgo, a cheisiodd ei hybu ymhlith bonedd ei chylch. Ei nawdd i gystadlaethau am samplau'r wlanen neu'r brethyn gorau, wedi eu gwau neu eu lliwio yn y siec neu'r stribedi cenedlaethol, a gyflwynodd elfen o grefft i'r eisteddfod.

Wedi'r ysgytwad o golli ei gŵr Benjamin Hall ym 1867, ac yn diflasu â Seisnigrwydd cynyddol Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru, enciliodd yn raddol o fywyd cyhoeddus. Bu farw Arglwyddes Llanofer yn ei chartref ar 17 Ionawr 1896 a chladdwyd hi ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys St Bartholomew, Llanofer chwe diwrnod yn ddiweddarach.