Mwyngloddiau Copr Mynydd Parys

Mae cerdded ar Fynydd Parys fel cerdded ar wyneb y lleuad, gyda'r cerrig amryliw a geir yno yn tystio i bwysigrwydd mwyngloddiau copr Ynys Môn ar un cyfnod. Er bod tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod copr yn cael ei gloddio o Fynydd Parys mor gynnar â'r Oes Efydd, dechreuodd cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol yn 1768 pan ddarganfuwyd gwythien arbennig o gyfoethog. Datblygwyd y gwaith gan Thomas Williams, 'Brenin Copr' cyntaf y wlad, ac erbyn y 1780au roedd Mwyngloddiau Copr Mynydd Parys, a oedd yn eiddo i Nicholas Bayley, AS dros Ynys Môn, y rhai mwyaf yn y byd. Allforiwyd y mwynau copr o borthladd Amlwch gerllaw i Abertawe, a oedd bryd hynny'n ganolfan fyd-eang mwyndoddi copr. Defnyddid y metel yn arbennig i orchuddio gwaelod llongau pren y llynges yng nghyfnod Nelson.
Daeth llawer o ymwelwyr tramor i weld mwyngloddiau copr enwog Mynydd Parys. Roedd rhai ohonynt yn astudio'r diwydiant yma a'r dulliau mwyndoddi rhagarweiniol, yn ogystal â rhyfeddu at y pyllau mwyngloddio enfawr a'r tomennydd o gerrig gwastraff llachar eu lliwiau. Yn 1796 bu'r barwn ifanc o Awstria, Gottfried Wenzel von Purgstall, ar daith ar hyd a lled Cymru ac arhosodd yma am ychydig. Er ei fod yn ei ddisgrifio ei hun fel lleygwr nad oedd yn deall llawer ar agweddau technegol mwyndoddi, mae ei ddisgrifiad serch hynny'n rhoi argraff dda o'r mwyngloddiau yn anterth y cyfnod cynhyrchu. Tua'r un cyfnod, treuliodd August Gottfried Lentin ychydig wythnosau yng Ngogledd Cymru gyda'r bwriad o astudio mwyngloddio brig ar Fynydd Parys mewn mwy o fanylder. Mae'r gyfres o lythyrau a ysgrifennodd ymysg y disgrifiadau cyfoes gorau o fwyngloddio copr, ei ddiwydiannau cysylltiedig, a'r effaith amgylcheddol a chymdeithasol ar y bobl ac ar ynys Môn.
Er i'r diwydiant edwino'n gyflym yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae effaith mwyngloddio copr ar Fynydd Parys yn dal yn amlwg heddiw gyda'r tirwedd agored o gerrig amryliw a gweddillion adeiladau diwydiannol wedi'u gwasgaru ar hyd y lle. Er bod llawer o lygredd yn y pridd a'r dŵr o hyd, mae rhai planhigion prin yn dal i dyfu ar y safle. Erbyn hyn mae tywyswyr lleol yn cynnig teithiau drwy'r ceudyllau a'r lefelau mwyngloddio hanesyddol.

Mae 13 eitem yn y casgliad

  • 1,232
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,075
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 812
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 843
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,719
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,011
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,434
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,163
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi