Castell Nedd

Daw enw'r dref o'i safle strategol ar y man isaf y gellir croesi Afon Nedd. Oherwydd bod yr afon mor fas a hawdd ei chroesi yno, sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o'r enw Nidum yno c. 75OC a daliwyd i'w defnyddio nes i luoedd Rhufain adael yn y bedwaredd ganrif.
Sefydlwyd dau gastell yn yr ardal yn y ddeuddegfed ganrif, un gan Richard de Glanville a sefydlodd Abaty Nedd hefyd yn 1130. Datblygodd tref a marchnad Castell Nedd yn gyflym o amgylch y castell a'r abaty, ond fe'i hysbeiliwyd yn gyson gan Arglwyddi Cymreig Afan. Erbyn y bedwaredd ganrif at ddeg roedd tref gaerog gref yno, fodd bynnag, a masnach yn ffynnu.
Dechreuodd Castell Nedd ddatblygu diwydiannau trwm yn gymharol gynnar, ac yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd glo'n cael ei gloddio a chopr yn cael ei fwyndoddi yno. Diwydiannwyd y dref yn drwm yn y ddeunawfed ganrif gyda thwf y gweithfeydd haearn, dur a thunplat, ac erbyn 1795 roedd Camlas Castell Nedd wedi ei chwblhau, a chamlas Abertawe i Aberdulais yn 1824. Gyda dyfodiad dwy reilffordd yn 1850 ac 1851 datblygwyd cysylltiad rhagorol rhwng y dref a safleoedd cynhyrchu diwydiannol yn uwch i fyny'r cwm gan ei gwneud yn ganolfan ddiwydiannol o bwys.
Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, roedd teithiwyr a ddeuai i Gastell Nedd yn edrych gyda chymysgedd o arswyd a rhyfeddod ar yr olygfa a welent ar draws y cwm. Roedd harddwch natur ac adfeilion abaty yn un pen i'r cwm yn cyferbynnu'n llwyr â'r mwg a'r fflamau a saethai i'r awyr y pen arall. I deithiwr Rhamantaidd roedd edrych ar Gastell Nedd yn y nos yn sicr fel camu i mewn i ddarlun o'r isfyd.

Mae 15 eitem yn y casgliad

  • 916
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 735
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 592
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 751
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,029
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 864
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 714
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 955
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,055
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,733
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,131
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,901
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi