EuroVisions / EwrOlwg
Ers canrifoedd mae pobl o gyfandir Ewrop wedi dod i Gymru am amryw o resymau. Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd deuai rhai i chwilio am baradwys wledig, tra teithiai eraill yn oes Victoria fel ysbïwyr diwydiannol; ac mewn cyfnodau o ryfel dihangodd llawer o ffoaduriaid i Gymru i geisio lloches rhag erledigaeth. Yn y gweithiau celf a ardddangosir yma gan nifer o artistiaid Ewropeaidd gwelir Cymru yn ei holl amrywiaeth: tirluniau paradwysaidd, canolfannau diwydiannol a phortreadau o’r Cymry.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment