Castell Powis
Cafodd yr amddiffynfa gyntaf ar y safle hwn ei hadeiladu gan Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Wenwynwyn, yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Dinistriwyd y castell gwreiddiol bron yn llwyr yn 1274 gan Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Wedi i Edward I goncro Cymru, adferwyd Gruffudd i'w ystadau ac yn fuan dechreuwyd codi castell newydd ar y safle. Yn dilyn Rhyfel Cartref Lloegr, newidiodd y castell ddwylo'n gyson, ond yn 1722 fe'i dychwelwyd i ddwylo William, ail Ardalydd Powis, a harddodd y castell a chwblhau'r terasau. Mae'r ardd Faroc ffurfiol yn un o ddim ond ychydig o rai gwreiddiol sy'n dal i'w cael ym Mhrydain bellach.
O ganlyniad i gyfres o briodasau di-blant, pasiodd yr ystâd a'r teitl i Edward Clive, gŵr Henrietta Herbert, perthynas bell i'r trydydd Ardalydd Powis, a'r olaf. Roedd Edward Clive yn fab hynaf Robert Clive, asiant yr East India Company, a orfododd oruchafiaeth Brydeinig ar yr is-gyfandir. Trwy'r briodas hon y symudwyd y casgliad celf Indiaidd helaeth i Gastell Powis yn ddiweddarach. Pan etifeddodd eu mab yr ystâd, gwnaed gwaith trwsio sylweddol i'r castell a'r gerddi. Talwyd am y gwelliannau hyn i raddau helaeth o'r cyfoeth enfawr yr oedd y teulu Clive wedi'i ennill yn India.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd twrisitiaid yn ymweld yn gyson â'r gerddi trawiadol ac yn edmygu'r casgliad celf a phortreadau a oedd yn cael ei arddangos yn y castell. Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonaidd, roedd yn destun syndod i sawl ymwelydd i weld fod darlun a phenddelw o Napoleon yn cael eu harddangos yn amlwg!
Gwnaed y newidiadau terfynol i Gastell Powis yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd ysgol i enethod i'r castell dros dro. Trosglwyddodd George Charles Herbert, pedwerydd Iarll Powis, y castell i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1952, ond mae'r teulu'n dal i gadw'r hawl i fyw yn y castell.