Castell Cas-gwent

Bu castell ar y safle strategol hwn uwchlaw Afon Gwy er 1067 ac mae'n un o'r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Cafodd Castell Cas-gwent ei atgyfnerthu gan William Marshall rhwng 1190 a'i farwolaeth yn 1219 ac ychwanegwyd ato ymhellach gan Roger Bigod yn y 1270au. Bu garsiwn yn y castell yn ystod gwrthryfel Glyn Dŵr a bu dan warchae ddwywaith yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Ar ôl i ryfeloedd cartref Lloegr ddod i ben a'r frenhiniaeth gael ei hadfer, defnyddiwyd Castell Cas-gwent fel garsiwn a charchar. Enwir Tŵr Marten ar ôl ei garcharor enwocaf, Henry Marten, a lofnododd y gwarant i ddienyddio Charles I, ac a fu farw yn y castell yn 1680. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, symudwyd y garsiwn oddi yno a dechreuodd y castell fynd a'i ben iddo.
Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ailddarganfuwyd Castell Cas-gwent, a oedd erbyn hynny'n adfeilion, gan deithwyr yn chwilio am olygfeydd rhamantaidd Cymru. Ymyst y teithwyr cynharaf o'r Almaen roedd Carl Gottlob Küttner a ymwelodd yn 1784. Gwnaeth hanes y castell, ei garcharorion pwysig a'i safle trawiadol ar lannau'r Gwy argraff fawr arno, ac roedd yn gofidio'n arw nad oedd ganddo fwy o amser ar ei ddwylo i aros dipyn yn hwy a thynnu ei lun o bob ochr. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach ymwelodd y Llydawr Armand-Louis-Bon Maudet, Comte de Penhouët, â'r lle ac fe'i cyfareddwyd gan y bensaerniaeth, yr hanes a'r amgylchedd hynod hardd. Nid oedd ei gynlluniau teithio prysur yn caniatau iddo yntau aros yn hir chwaith, ond yn ei ddyddiadur taith mae'n hael ei ganmoliaeth i wasanaeth a charedigrwydd Mrs Williams, a oedd yn cael ei chyflogi gan berchen y castell, Iarll Beaufort, i arwain ymwelwyr o amgylch y safle.

Mae 25 eitem yn y casgliad

  • 663
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 595
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 586
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 668
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 717
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 446
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 637
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,264
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 730
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 656
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 606
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 446
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 757
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 807
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,293
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 552
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 298
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi