Llangollen

Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Llangollen a daw ei henw o Sant Collen, yr honnir iddo sefydlu eglwys yno ar lannau afon Dyfrdwy yn y chweched ganrif. Mae'r bont garreg ysblennydd o'r unfed ganrif ar bymtheg dros y Ddyfrdwy yno yn un o Saith Rhyfeddod Cymru gynt. Fe wnaeth ffordd yr A5 drwy Langollen ddatblygu o'r briffordd hanesyddol drwy Ogledd Cymru. Awdurdodwyd y peiriannydd sifil Thomas Telford gan Ddeddf Seneddol yn 1815 i foderneiddio'r ffordd gan mai dyma'r prif lwybr post rhwng Iwerddon, tref borthladd Caergybi ar Ynys Môn, a Llundain. Am y rheswm hwn cadwodd Telford oleddf y ffordd yn hynod isel fel y gallai cerbydau'r post deithio'n gyflym ar ei hyd. Golygodd moderneiddio'r ffordd ei bod yn haws a chyflymach hefyd i ymwelwyr ddod i Langollen. Yn 1828 canmolodd y Tywysog Herman von Pückler-Muskau harddwch Dyffryn Llangollen ac ymwelodd â'r Merched enwog yno, Sara Ponsonby ac Eleanor Butler. Flwyddyn yn ddiweddarach, loes i galon Felix Mendelssohn Bartholdy oedd clywed caneuon Beethoven yn cael eu chwarae'n sâl gan delynor yn ei westy. Prysurodd wedyn i ymweld â'r ardal gyfagos gan fynd i Gastell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes. Un o brif atyniadau diwylliannol Llangollen heddiw yw'r Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, gŵyl gyfeillgar sy'n dathlu cân a dawns o bedwar ban byd. Mae gwreiddiau'r ŵyl yn mynd yn ôl i 1943 gydag ymwelwyr rhyngwladol yn teithio i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mangor y flwyddyn honno. Er 1947 mae'r Eisteddfod Ryngwladol chwe niwrnod wedi cael ei chynnal yn Llangollen gan dynnu miloedd o gantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd i'r dref.

Mae 21 eitem yn y casgliad

  • 606
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 868
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 746
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 449
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 461

  • 541
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 496
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 532
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 505
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 413
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 467
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 392
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 463

  • 453
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 476
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 526
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 574
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 415