arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Pont ar Fynach a Gwesty Hafod Arms

Daw enw'r pentref bychan hwn gyda'i raeadr trochionog o'r isaf o dair pont dros yr afon Mynach, a adeiladwyd fesul cam un ar ben y llall. Dywed chwedl leol mai'r Diafol a adeiladodd y bont hon mewn un noson, ar ôl taro bargen gyda hen wraig yr oedd ei buwch werthfawr wedi ei dal ar ochr arall yr afon. Yn dâl am gael ei hanifail yn ôl, roedd yn rhaid iddo addo i'r Diafol y rhoddai'r enaid byw cyntaf i groesi'r bont iddo. Fodd bynnag, fe wnaeth y ddynes ei dwyllo drwy daflu torth o fara dros y bont a gadael i'w chi redeg ar ei hôl. Roedd ar y Diafol gymaint o gywilydd fel na ddangosodd ei wyneb wedyn - neu dyna'r stori beth bynnag.
Mae'r bont gyntaf, sy'n fychan ac wedi'i hadeiladu o gerrig, bron yn sicr yn dyddio o'r oesoedd canol, ac efallai iddi gael ei hadeiladu gan fynaich o abaty Sistersaidd Ystrad Fflur gerllaw. Adeiladwyd yr ail bont dros hon yn 1753, ac ychwanegwyd parapetau haearn ati yn 1814. Yn 1901 y codwyd y drydedd bont a'r olaf. Pont o rwyllwaith haearn yw hon ac mae'r ffordd fodern yn mynd drosti. Bob tro roedd y ffordd yn cael ei lledu, ei lefelau a'i gwella, gan adlewyrchu'r gwelliant graddol yn isadeiladd Ceredigion dros y canrifoedd diwethaf.
Yn hanesyddol, roedd y bont ar y briffordd rhwng Llangurig ac Aberystwyth, gan alluogi twristiaid i fedru mynd at y rhaeadrau a'r enwog 'Bowlen y Diafol' yn rhwydd. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd twristiaid a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt Cymru yn heidio yno. O ganlyniad, adeiladodd perchennog y tir o amgylch, Thomas Johnes, luest hela ar fin y ffordd yn 1787. Yn 1839 helaethwyd y lluest gan ei pherchennog newydd, Syr Henry Houghton, a'i hailagor fel Gwesty Hafod Arms, a enwyd ar ôl ystâd gyfagos Hafod Uchtryd.
Ychydig flynyddoedd ar ôl i'r gwesty agor ei ddrysau, arhosodd Carl Carus a Friedrich August II, Brenin Sacsoni, yno am ychydig ynghanol y glaw yn ystod eu taith o Aberhonddu i Aberystwyth. Ar ôl sychu eu dillad a chynhesu eu cyrff blinedig wrth danllwyth o dân yn y parlwr, aethant i lawr i gael golwg ar yr hafn ryfeddol dan y pontydd. Heddiw, does dim rhaid i dwrisitiaid ddibynnu ar goets fawr wlyb a sgyrtiog i'w cludo yno. Yn hytrach, gallant fwynhau taith at y pontydd a'r rhaeadr ar Reilffordd Dyffryn Rheidol o Aberystwyth, a agorodd yn 1902.

Mae 11 eitem yn y casgliad

Falls at the Devil's Bridge, near Aberystwyth

  • 418
  • login to save

View from the inn at the Devils Bridge

  • 230
  • login to save

Falls of the Mynach, Devil's Bridge

  • 244
  • login to save

Devil's Bridge and the Hafod Arms Hotel

  • 676
  • login to save

Vale of the Rheidol, Devils Bridge

  • 268
  • login to save

Devil's Bridge Hotel garden

  • 1,279
  • login to save

Devils Bridge, Upper View, Cardiganshire

  • 382
  • login to save

A View from the Devil's...

  • 189
  • login to save

Devil's Bridge

  • 233
  • login to save

Hafod Hotel Company Hotel and Falls c.1861

  • 272
  • login to save

Gwesty'r Hafod, Pontarfynach

  • 585
  • login to save

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw