Conwy

Yn wreiddiol, roedd y dref gaerog ganoloesol boblogaidd hon, yn safle abaty Sistersaidd Aberconwy a sefydlwyd yn 1199 gan Lywelyn ab Iorwerth. Yn 1284, wedi iddo goncro Cymru, fe wnaeth Edward I, brenin Lloegr, sefydlu Castell Conwy a'i dref gaerog gysylltiedig a daeth yr abaty'n Eglwys y Santes Fair, gyda'r mynaich yn cael eu symud i safle newydd ym Maenan yn Nyffryn Conwy. Bum canrif yn ddiweddarach, ymwelodd y tywysog Almaenig Herman von Pückler-Muskau â'r eglwys a chafodd gryn ddifyrrwch wrth weld yr arysgrif ar garreg fedd Nicholas Hookes, a nodai ei fod yn unfed plentyn a deugain ei dad a bod ganddo ef ei hun saith ar hugain o blant. Yn ystod teyrnasiad Edward I ymsefydlodd masnachwyr a chrefftwyr Seisnig yn y dref, y rhan fwyaf ohonynt o siroedd Caer a Chaerhirfryn.
Tŷ Aberconwy, sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif, yw'r unig enghraifft sydd ar ôl bellach o dŷ masnachwr a adeiladwyd o fewn muriau'r dref. Yn 1401 llwyddodd dau gefnder i Owain Glyndŵr i gipio'r dref a'r castell a'u dal am bedwar mis dan warchae. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaethant lwyddo i ddinistrio'r pontydd a'r gatiau ar hyd muriau'r dref.
Yn ystod y cyfnod Tuduraidd, ymsefydlodd mwy o deuluoedd Cymreig o fewn muriau'r dref. Yn eu plith roedd y masnachwr cyfoethog Robert Wynn a'i deulu. Yn ystod tri chyfnod adeiladu, rhwng 1576 a 1585, fe adeiladodd ei dŷ tref ysblennydd, Plas Mawr. Er y rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel tŷ teulu erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, cadwyd yr adeilad yn gyfan i bob pwrpas. Am gyfnod is-osodwyd Plas Mawr yn nifer o fflatiau, bu hefyd yn ysgol i ferched ac, erbyn y 1880au, roedd yn gartref i'r Academi Gelf Frenhinol. Pan ymwelodd yr anturiaethwraig a'r awdur llyfrau taith, Sophie Dohner, o Hamburg, â'r ystafelloedd arddangos, roedd yn hael ei chanmoliaeth i ansawdd celf Gymreig fodern, yn ogystal ag i'r adeilad hynod hwn a'i hanes maith.

Mae 17 eitem yn y casgliad

  • 1,470
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,503
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,518
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,478
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,856
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 668
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 598
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,226
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 400
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 384
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 407
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,022
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 423
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 402
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 512
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi