Skip to main content

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte rhwng 1796 a 1805 i gario Camlas Ellesmere dros Afon Dyfrdwy, gan gysylltu pentrefi Froncysyllte a Threfor a oedd ar y naill ochr a'r llall i'r dyffryn. Fe'i cynlluniwyd a'i hadeiladu gan y peiriannydd sifil Thomas Telford, yn gweithredu fel Asiant Cyffredinol, a'r peiriannydd ymgynghorol mwy profiadol, William Jessop, a wnaeth yr arolygon o'r safle a chynghori ar y dulliau gorau o weithredu. Costiodd adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte £47,000, a oedd bron yn ddeg y cant o gynnyrch domestig gros blynyddol y wlad. Yn 39 metr o uchder a 307 metr ar ei hyd, mae nawr y draphont ddŵr hiraf y gellir hwylio drosti ym Mhrydain a'r uchaf yn y byd.
Mae'r draphont yn cynnwys deunaw o bileri carreg sy'n cynnal cafn o haearn bwrw sy'n ffurfio'r gamlas. Mae'r pileri'n wag tu mewn ac yn meinhau at y brig er mwyn lleihau eu pwysau ac felly alluogi codi adeiladwaith mor uchel. Ar gyfer mortar, dywedir bod y peirianwyr wedi dibynnu ar gymysgedd o galch, dŵr a gwaed bustych. Nid yw'r cafn haearn bwrw wedi ei gysylltu â'r gwaith cerrig, ond mae'n gorffwys yn unig ar ben cyfres o asennau haearn sy'n codi o bob piler ac fe'i delir yn ei le gan bwysau'r dŵr yn unig. Disodlwyd y llwybr halio gwreiddiol yn 1831 gan gynllun cantilifer a oedd yn galluogi i ddŵr a symudid gan gychod yn pasio lifo o dano, gan leihau ataliad.
Adeiladwyd y draphont ddŵr ar yr adeg yr oedd twristiaeth fodern yn dechrau dod i Gymru. Ymysg yr ymwelwyr cyfandirol cynnar oedd yr Archddug John o Awstria. Gyda diwedd y Rhyfeloedd Napoleonaidd, manteisiodd ar y cyfle i deithio i Gymru yn 1816. Canmolodd harddwch dyffryn Dyfrdwy yn gyffredinol ac yna argymhellodd yn arbennig y dylid edrych ar y draphont o lawr y dyffryn o dani oherwydd bod hynny'n galluogi rhywun i werthfawrogi ei hadeiladwaith cywrain yn well. Roedd gan ymwelwyr eraill lai o ddiddordeb yn agweddau peirianneg y draphont, gan ei gwerthfawrogi'n fwy am ei harddwch pensaernïol a'i chytgord â'r tirwedd o'i chwmpas. Ar 22 Mehefin 1830, paentiodd yr arlunydd tirluniau o Ffrainc, Alphonse Dousseau, ddarlun dyfrlliw manwl gywir o Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Yn gefndir iddi roedd dyffryn hardd y Ddyfrdwy ar fachlud haul ac adfeilion Castell Dinas Brân yn y pellter.
Yn 2009 dynodwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO, gan gydnabod ei chynllun peirianneg arloesol a'i phwysigrwydd mawr yn natblygiad hanesyddol camlesi ym Mhrydain.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment