Pysgota yn Sir Fynwy
Mae dulliau hynafol o bysgota wedi parhau drwy’r oesau yng Nghymru, yn enwedig yn Sir Fynwy.
Roedd cyryglwyr masnachol yr ardal yn defnyddio cyryglau, rhwydi lâf neu rwydi gafl, rhwydi atal, a chewyll a elwir yn putts a putchers i ennill bywoliaeth. Roedd y dulliau hyn yn effeithiol ac yn effeithlon. Serch hynny, dim ond pysgota â rhwydi lâf sy’n dal i’w weld hyd heddiw.
Cafodd y casgliad ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2016 fel rhan o gyfraniad Amgueddfa Cymru at y stondin Lle Hanes.