Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

O ganlyniad i fanteision naturiol harbwr Abergwaun, cynhaliodd y dref gysylltiadau masnach rhyngwladol am ganrifoedd lawer, tra bod priodweddau creigiog yr ogofâu arfordirol wedi cefnogi math arall o economi.

Sicrhaodd priodweddau naturiol harbwr Abergwaun ei fod yn harbwr unigryw ddiogel a dibynadwy trwy’r canrifoedd. Cefnogodd yr harbwr ddiwydiant pysgota y dref, yn enwedig masnach penwaig, ond roedd hefyd yn cynnig angorfa ddibynadwy i gychod masnachu rhyngwladol a chysgod rhag tywydd cythryblus. Yn y cyfamser, helpodd y cildraethau a’r ceudyllau cyfrinachol niferus ar hyd yr arfordir i gynnal math mwy anghyfreithlon o fasnach, sef gweithgareddau smyglo.

Eisteddodd Gary Jones i lawr gyda Ports, Past and Present i siarad am hanes a threftadaeth cysylltiadau masnach ryngwladol Abergwaun ac mae’n cofio enwau lleol am rai o’r cildraethau smyglo cyfrinachol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw