Yr Hen Gapel, Llwynrhydowen
Yr Hen Gapel yw trydydd capel y gynulleidfa Arminaidd gyntaf yng Nghymru a mam eglwys “Smotyn Du” yr Undodiaid yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, traddodiad radicalaidd mewn lleoliad gwledig annisgwyl a fyddai’n achosi dirgryniadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Dechreuodd yr achos yn Llwynrhydowen yn 1726 ac adeiladwyd y capel cyntaf yn 1733, ond wrth i’r gynulleidfa dyfu fe godwyd estyniad ar y capel yn 1745 a’i ailadeiladu’n gyfan gwbl yn 1791. Adeiladwyd y capel presennol, sef y trydydd, yn 1834, ac mae’n enghraifft dda o gapel wal hir o gymeriad Sioraidd diweddar heb ei adfer, gyda’r tu mewn gwreiddiol fwy neu lai’n aros.
Yng nghanol y 19eg ganrif, gallai’r gynulleidfa fod cymaint â 600. Roedd yn rhan o ddiwylliant Undodaidd radicalaidd yng nghefn gwlad Cymru, a wrthsafodd don ar ôl ton o ddiwygiadau efengylaidd a ddeilliai o graidd Methodistiaeth Calfinaidd Cymru nid nepell i’r gogledd. Yn sgil hynny daethpwyd i adnabod y cymunedau hyn gyda’i gilydd fel y ‘Smotyn Du’.
Yn 1876 dyma leoliad sgandal genedlaethol pan daflwyd y gynulleidfa a’i gweinidog William Thomas (a adwaenid hefyd fel Gwilym Marles) allan gan y tirfeddiannwr lleol, John Lloyd o Alltyrodyn. Cwynai Lloyd fod eu hideoleg Undodaidd ‘radicalaidd’, gwrth-Dorïaidd, yn torri amodau eu prydles. Wedi cau’r capel, anerchodd y gweinidog poblogaidd dorf o ryw 3,000 yn yr awyr agored, gyda’i gefn at y capel, a oedd dan glo ac mewn cadwynau. Yn sgil y diddordeb cenedlaethol a ysgogwyd gan y troi allan, cychwynnwyd ymgyrch codi arian a chreu capel newydd, ond ar ôl i Lloyd farw fe roddodd ei chwaer yr adeilad yn ôl i’r gynulleidfa. Yn anffodus, erbyn hyn roedd Gwilym yn wael ei iechyd a bu farw cyn gallu bod yn bresennol yn seremoni agor y capel newydd. Claddwyd ef yn y capel newydd a gysegrwyd wedyn er coffâd iddo. Mae Gwilym Marles yn arwyddocaol hefyd fel hen ewythr y bardd, Dylan Thomas. Mae awgrym, hyd yn oed, mai’r gweinidog a daflwyd allan mor waradwyddus oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r Parchedig Eli Jenkins yn nrama’r bardd, Dan y Wenallt.
Wedi’r digwyddiadau hyn, defnyddiwyd yr hen gapel yn bennaf fel Ysgol Sul a lle ar gyfer cyngherddau ac Eisteddfodau, cyn cau oddeutu 1960. Fe’i hailagorwyd am gyfnod byr yn y 1970au fel amgueddfa Undodaidd. Prynwyd y capel gan Addoldai Cymru yn 2008.
http://www.addoldaicymru.org/yr-hen-gapel/