cac01104
Dywed y cyfwelai nad oedd hi'n nabod neb oedd ganddynt deledu pan oedd hi'n ifanc iawn, pan welodd hi un yn nhy ffrind cafodd siom a meddyliodd nad oedd yn cymharu a'r sinema. Trwy Aberfan daeth nifer o bobl i wybod am Gymru am y tro cyntaf ac roedd y Cymry'n teimlo fel un genedl. Gwelodd y Coroni ar Pathe News, cofio pawb yn gwirioni gweld y dillad. Heb ddechrau meddwl yn wleidyddol bryd hynny. Cofio gweld y dwr yn llenwi yn Nhryweryn a cip o rai pethau ar newyddion, roedd gwrthwynebiad mawr yn ei chymuned. Penderfynodd peidio a gwylio seremoni'r Arwisgiad ond rhywun am gael ei weld ar deledu lliw oedd ganddi ac felly wedi gweld cip. Cofio tensiwn mawr, unrhyw beth Cymreig yn cael ei gwmpasu a rheiny oedd yn gwrthwynebu'r Arwisgiad.Rygbi wedi uno Cymru, rywbeth o'r de yn tynnu sylw'r Cymry yn y gogledd. Lansiad S4C yn bwysig iawn, roedd yn poeni na fyddai'n llwyddiant gan fod gymaint yn edrych ar un sianel a meddwl bydden nhw ddim yn newid patrwm. Rhai oedd yn gwrthwynebu'r sianel wedi cael ail. Cofio bod cyflwynydd rhwng rhaglenni. Mae'n gwylio rhaglenni Cymraeg yn bennaf o hyd.