Skip to main content

Gwilym Roberts

Cafodd y cyfwelai ei fagu yn Llanllyfni a byddai'n mynd i dy ffrind ar ddydd Sadwrn i wylio 'Lone Ranger'. Dywed un tro fod y gweinidog wedi dod yno a gweld tua 20 o blant yn gwylio teledu, dywedodd eu bod ddim am gael gwylio Lone Ranger Sadwrn nesaf os nad oedden nhw'n dod i'r capel ar y Sul. Wedi mynd i Gaernarfon ar ddiwrnod yr Arwisgiad gyda chriw o hogiau, bu i un ohonynt geisio taflu wyau at yr orymdaith. Ffilmiodd rhywfaint o'r diwrnod gyda'i gamera bach. Cofio clywed am y FWA ar y teledu yn y misoedd cyn y seremoni .Cofio gwylio gem mewn ysbyty, gwylio pob gem adref yn gyffredinol yn y 70au ddim yn mynd i weld gemau byw. Dywed fod awyrgylch tafarn yng Nghaerdydd yn ystod gem yn drydanol.

Gwelediadau:
1192
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
13/07/2015

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment