Norman Land
Cofia'r cyfwelai'r cyffro o gael teledu am y tro cyntaf, newyddion sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf ar hyd y blynyddoedd. Meddwl bod teledu yn adnodd pwysig ym myd addysg a bod rhaglenni natur gwych wedi'u darlledu ar hyd y blynyddoedd.Cofio emosiwn yn bennaf yngl?n a boddi Cwm Tryweryn, heb weld llawer o ddarlledu. Aberfan wedi cael effaith fawr gan ei fod yn byw mewn ardal lofaol ei hun, sonia am drychinebau yn ardal Wrecsam. Cofio gweld pobl ar y teledu'n mynd i Aberfan i helpu a theimlo fod angen i bobl wybod beth oedd wedi digwydd.Roedd yn teimlo bod gor-feirniadu'r undebau llafur wedi digwydd yn ystod Streic y Glowyr, ond yn meddwl mai'r teuluoedd sy'n dioddef fwyaf yn ystod streic.