Dewi Rhys Jones
Teledu plant yw atgof cynharaf y cyfwelai. Wrth fynd yn hyn roedd 'byw bywyd' yn cymryd lle teledu. Bu cyfarfodydd yn ei gartref yn ystod cyfnod boddi Cwm Tryweryn ond ar y radio a mewn papurau newydd y cafodd newyddion yn bennaf, cofio gweld rhywfaint o brotestio ar y newyddion. Wedi mynd gyda'i ewythr i Nefyn i osgoi'r Arwisgiad, mae'n cofio gweld rhai pethau ar y teledu wedyn a bod yn ddilornus o'r holl beth. Meddwl fod y pethau a welodd yn y misoedd cyn y seremoni yn gyffrous y son am fomio a protest. Dywed fod pawb yng Nghaernarfon yn gwybod pwy oedd yr heddlu 'cudd'. Dywed fod darlledu rygbi yn ddefnyddiol yn ei rol fel hyfforddwr, gan ei fod yn dweud wrth y plant wylio tactegau mewn gemau.Roedd lansio S4C yn ddigwyddiad cyffrous ar lefel bersonol gan ei fod wedi chwarae rhan mewn cynhyrchu ac ymddangos mewn rhaglenni.Cofio personoliaethau Arthur Scargill a Margaret Thatcher o gyfnod Streic y Glowyr.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment