Gareth Williams
Dywed y cyfwelai mai ar wyliau byddai'n gweld teledu ac nad oedd trydan yn Llanrhaeadr-ym -Mochnant pan oedd yn blentyn. Cof cynharaf yw mynd i dy ffrind ei Dad yng Nghroesoswallt i wylio'r Cup Final, roedd yr ystafell yn llawn. Cafwyd trydan yn neuadd y pentref er mwyn gwylio'r Coroni ond yn bersonol roedd concro Everest yn bwysicach. Ar ol symud i Wrecsam, cofio'r ymdrech i gael gwell signal ar gyfer teledu o Gymru. Cofio gweld yr ochr dechnegol i hanes Tryweryn, adeiladu'r argae yn cael mwy o sylw na'r boddi ei hun. Dywed mai ar ol i S4C ddechrau cafodd y golled ei dangos ar y teledu. Clywodd am drychineb Aberfan yn y car a dywed fod hyn yn wir am lawer o ddigwyddiadau. Teledu wedi dod a'r byd i Gymru.Gwyliodd yr Arwisgiad yn achlysurol yn ystod y dydd ond mae'n cofio clywed mwy am Siarl yn astudio yn Aberystwyth. Dywed fod teledu wedi cynyddu ei ddiddordeb mewn rygbi er mae pel-droed yw ei brif ddiddordeb. Pan lansiwyd S4C roedd yn anodd cael signal da yn Wrecsam, wedyn yn gwylio newyddion Cymreig yn hytrach na Prydeinig. Sonir am raglenni plant a'r ffaith fod y sianel wedi eu gwneud yn fwy ymwybodol o wahanol rannau o'r wlad. Cefnogaeth y gwragedd wedi gwneud argraff yn ystod Streic y Glowyr ac roedd pwyslais mawr yn cael ei roi ar Arthur Scargill.