Ieuan Roberts

Dim teledu gan y cyfwelai yn ystod ei blentyndod ond mae'n cofio plant yn son am raglenni yn yr ysgol. Dywed fod teledu ddim yn rhan bwysig o fywyd unrhyw un yn y cyfnod yna, roedd bywyd cymdeithasol yn bwysicach o lawer. Mae'n cofio gwylio rygbi ar deledu mewn ffenest siop os fethai cael tocyn i'r gem. Mae'n trafod diffyg teledu Cymraeg yn ardal Wrecsam a dywed mai'r refferendwm a wnaeth yr argraff fwyaf arno. Byddai'n mynd i gem rygbi bob tro pe byddai'n bosib, neb yn son am wylio mewn tafarn bryd hynny. Wnaeth o ddim llwyddo i dderbyn S4C nes 3 mis ar ol y lansiad. Mae'n cofio bod y newyddion yn dangos pob nos faint o lowyr oedd yn dychwelyd i'w gwaith yn ystod Streic y Glowyr. Cyfryngau oedd yn creu'r stori ac roedd y darlun yn unochrog iawn. Dywed ei fod wedi torri'r gymuned a rhai pobl o hyd yn gwrthod siarad a'i gilydd.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 331
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 424
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 321
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 526
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi