Alistair Williams
Cyfwelai yn cofio gwylio'r Coroni gyda llond ty o bobl, byddai'n gwylio rygbi mewn tafarnau weithiau ond yn well ganddo wylio adref ei hun. Tryweryn heb wneud argraff fawr ond wedi sylweddoli yn hwyrach. Cyfwelai wedi osgoi'r Arwisgiad, dywed fod oedrannau gwahanol wedi ymateb yn wahanol, cofio cael ei stopio gan yr heddlu cudd yng Nghaernarfon. Cyfwelai'n meddwl bod rygbi wedi gwneud mwy dros deimladau o genedligrwydd na Phlaid Cymru.Yn cofio 79 ond methu cael teledu o Gymru yn Wrecsam felly ychydig iawn o wybodaeth o'r teledu. 97 yn aros yn y cof wedi cael teledu lloeren erbyn hynny, wedi aros ar ei draed ond wedi mynd i'r gwely cyn cyhoeddi canlyniad Caerfyrddin.Heb gael S4C nes cael lloeren yn 1991, meddwl bod S4C yn plesio'r lleiafrif oedd yn teimlo'n Gymreig iawn yn barod.Dim llawer o gof o weld Streic y Glowyr o safbwynt Cymreig. Meddwl bod y teledu yn weddol deg er bod Scargill yn cael ei ddangos fwy na neb. Teledu yn dangos effaith plismyn yn cael eu hanfon i'r ardaloedd o lefydd eraill.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment