Gareth Davies Jones
Mae'r cyfwelai'n cofio mynd i dai gwahanol aelodau'r capel i wylio pel-droed yn y 50au cynnar. Dywed fod cael Sky wedi cael effaith ar elfen gymdeithasol teledu oherwydd cyn ei gael adref roedd rhaid mynd i rywle i wylio chwaraeon. Gwyliodd yr Arwisgiad ond roedd yn cefnogi'r protestio. Cofio synnu ar weld rhai yn cefnogi yn y misoedd cyn y seremoni, rhai oedd yn gwrthwynebu yn cael eu portreadu fel gwrthryfelwyr yn hytrach na rhai gyda dadleuon synhwyrol. Mae'n meddwl bod diffyg sylw i Gymru yn gyffredinol yn y cyfryngau Prydeinig. Yn Wrecsam mae nifer yn troi erialau i dderbyn darllediadau gogledd Lloegr. Credai fod gwrando ar rygbi ar y radio yn fwy cyffrous na'i wylio ar y teledu. Wedi dilyn dadleuon Datganoli ac yn cofio siom 1979. Dywed fod rhagfarnau personol nad ydynt yn seiliedig ar ffeithiau yn lliwio dadleuon ar y teledu, roedd y darlledu'n fwy cytbwys ym 1997. Meddwl bod canlyniad Caerfyrddin wedi ei gadw'n ol yn bwrpasol. Mae'n credu bod eithafiaeth Arthur Scargill wedi effeithio ar Streic y Glowyr a bod y cyfryngau'n neidio ar straeon eithafol.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment