Shelagh Russell-Rudge
Dywed fod y teulu wedi cael teledu yn arbennig ar gyfer seremoni'r Coroni, roedd yn achlysur i'r teulu. Roedd yn arbennig o gofiadwy gan mai'r diwrnod hwnnw y cafodd ei theulu gyfarfod ei darpar wr am y tro cyntaf. Cofio bod y teledu cyntaf a welodd wedi ei droi at ddrych fel eu bod yn gallu gwylio adlewyrchiad y llun. Wedi gwylio'r digwyddiadau brenhinol i gyd gyda ffrindiau. Wedi bod yn byw tramor rhan helaeth o'i bywyd ac wedi gweld llawer o ddigwyddiadau ar riliau newyddion gan gynnwys Arwisgiad Tywysog Siarl a thrychineb Aberfan. Refferendwm 97 a dynnodd ei sylw at wleidyddiaeth a hanes Cymru gyntaf, cymerodd ran mewn trafodaeth deledu yng ngwesty'r Celtic Royal yng Nghaernarfon.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment