Keryn Dodd

Atgofion cynharaf yw gweld rhaglenni plant yng nghartrefi ffrindiau. Cofio tasg yn yr ysgol lle'r oedd yn rhaid iddi ysgrifennu am ei hoff raglen deledu, a'r unig raglen yr oedd wedi'i gweld oedd Andy Pandy bryd hynny. Wedi'r chweched dosbarth dechreuodd wylio mwy o deledu.Gwyliodd y Coroni mewn ffenestr siop, ni arhosodd am hir ond deallodd yr arwyddocad. Gwyliodd yr Arwisgiad, darllenodd y manylion yn y Daily Post ond nid oedd yn derbyn teledu o Gymru felly gwelodd yr ochr Brydeinig yn unig. Byddai'n gwylio'r holl gemau rygbi yn y 70au, a byddai'n cael gwahoddiad i wylio ar deledu lliw ei lletywraig.Ni welodd y dadleuon ynglyn a Datganoli oherwydd diffyg rhaglenni Cymreig, roedd yn gwybod nad oedd yn cymeradwyo Datganoli oherwydd cysylltiad agos yr ardal a Lerpwl ac ardaloedd eraill cyffiniol yn Lloegr. Mae hi'n teimlo bod daearyddiaeth Cymru yn golygu bod y gogledd yn cael ei esgeuluso.

Mae 7 eitem yn y casgliad

  • 332
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 441
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 355
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 304
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 456
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 459
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 400
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi