Beryl Heber-Owen
Beryl Heber-Owen
Prynodd tad y cyfwelai deledu ar gyfer y Coroni ym 1953, mae'n cofio nad oedd ei mam-gu yn hapus gyda'r teledu i ddechrau ond ymdawelodd yn y pendraw. Yn ddiweddarach nid oedd ganddi deledu yn y Felinheli nes i gymydog godi erial a chaniatau i bawb gysylltu ag ef a thalu i dderbyn signal teledu. Dilynodd y dadleuon ar Ddatganoli ym 1997 a theimlai fod y dadleuon yn diddymu ei gilydd. Arhosodd gyda'i gwr i wylio rhai o'r canlyniadau ac roedd y ddau'n ymddiddori. Mae hi'n gwylio S4C gydag is-deitlau ond nid yw wedi dylanwadu ar ei dewis gwylio.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment