cac00215
Ni phrynodd y cyfwelai hwn deledu am gyfnod hir oherwydd ei fod yn poeni beth fyddai effaith teledu ar iaith ei blant; teimla ei fod yn iawn wrth edrych yn ol i ofidio am hynny. Wrth drafod yr Arwisigiad mae'n son am y rhwyg yn ei deulu yn sgil ei wrthwynebiad i'r syniad. Trafodir Refferendwm 79 a 97, ac mae'n cofio iddo ystyried gadael Cymru yn sgil siom 79; ymhyfryda yn llwyddiant ymgyrch 97. Wrth drafod S4C mae'n ystyried gwerth safiad Gwynfor Evans a phryderon Cymry amlwg fel Jennie Eirian Davies a Jac L Williams ynglyn a neilltuo'r Gymraeg i un sianel yn unig. Wrth gofio am Streic y Glowyr mae'n nodi iddo deimlo bod cefnogaeth i'r glowyr yn lleihau yn sgil gweld trais ar y teledu a chynllun y llywodraeth i rannu a rheoli.