Jacqueline Winter

Sonia'r cyfwelai yma am y set Redifusion a logai ei rhieni ac a oedd yn medru derbyn y BBC yn unig, a'i boddhad o gael mynd drws nesa at ei mam-gu a oedd yn berchen set a dderbyniai ITV hefyd. O siarad am y digwyddiadau mwyaf dylanwadol ar y teledu mae'n nodi saethu JFK ac achlysuron Brenhinol. Cofia am wylio'r Arwisgiad gan deimlo ei fod o bwysigrwydd hanesyddol a mynega'r farn ein bod yn lwcus i gael y Teulu Brenhinol. Trafoda Streic y Glowyr ac ymddangosiadau ymfflamychol Scargill. Roedd yn gwylio gemau Rygbi'r 70au adref gyda'i mam tra bod ei g?r a'i ffrindiau yn mynd i'r gem. Cofia am geisiadau Gareth Edwards ac am bethau atodol yn ymwneud a'r gemau, fel perfformiadau a chaneuon Max Boyce. Cyfeiria at Aberfan, at weld y Frenhines a George Thomas yn ymweld, ac am brysurdeb y ffyrdd i Ferthyr wrth i bobl lifo i mewn i'r cwm i geisio helpu.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 613
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 641
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 627
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi