Malcolm Gilbert
Ceir atgofion yn y cyfweliad hwn o wylio teledu yn nhy cymydog a'r newid enfawr a fu ym myd darlledu a rhaglenni yn ystod y chwe deg mlynedd ddiwethaf. Mae hefyd yn trafod Aberfan - trychineb a ysgogodd ar edrych o ddifrif ar sut mae gwaredu gwastraff mewn modd derbyniol a diogel. Trafodir y ddau refferendwm ar Ddatganoli - yr ymateb i ymgyrch 79 gan Kinnock ac Abse a sut y newidiwyd barn pobl Cymru erbyn 97 yn sgil deunaw mlynedd o lywodraeth Geidwadol dan arweiniad Margaret Thatcher. Mae'n trafod y gwahaniaethau o fewn Cymru - Y Fro Gymraeg, Cymry'r Cymoedd a Chymry'r Gororau. Wrth son am Streic y Glowyr mae'n trafod effaith y cyfryngau a hefyd y frwydr rhwng y glowyr a'r heddlu yn Orgreave, y dicter, a'r orymdaith yn ol i'r gwaith ar ddiwedd y streic.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment