Skip to main content

Geraint Davies

Daeth teledu i gartref y gwestai yma dipyn ar ol i'w gyfoedion gael setiau teledu a hynny oherwydd gwrthwynebiad ei dad i brynu set. Yn sgil hyn teimlai'n wahanol i'w ffrindiau. Trafoda ymgyrch Datganoli 79 ac effaith Neil Kinnock ar y bleidlais a sonia am noson y canlyniadau yn 97. Cofia rhuthro i lawr i Gaerdydd gyda swn ceir yn canu eu cyrn ar y ffordd, a chofia'r dydd canlynol pan ganiataodd Clayton Jones, perchennog cwmni bysys ym Mhontypridd, i bawb deithio'n rhad ac am ddim ar ei fysys er mwyn dathlu'r fuddugoliaeth. Wrth drafod Streic y Glowyr mae'n dweud bod teledu ar y pryd yn cefnogi'r hawl i weithio ac nad oeddent yn gefnogol i'r hawl i atal llafur. Cofia fod ar y llinell biced, er nad oedd yn lowr ei hun, a chofia'r diwrnod yr aeth y glowyr yn ol i'r Maerdy. Sonia am gyfarfod yn dilyn y streic lle y gwahoddwyd ef i siarad; ond doedd dim i'w ddweud. Roedd y frwydr wedi ei cholli. Creda na fyddai'r streic wedi digwydd yma pe bai Cymru'n wlad annibynnol.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment