Skip to main content

Cofeb i Llywelyn ap Gruffudd, Ein Llyw Olaf yng Nghilmeri

Cofeb Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd, a elwir hefyd yn Llywelyn Ein Llyw Olaf, y tybir iddo gael ei ladd ger y man hwn ym mis Rhagfyr 1282 adeg brwydr Pont Irfon, rhyw 3km i’r dwyrain o Lanfair-ym-Muallt. Cafodd y man lle syrthiodd Llywelyn ei nodi gan obelisg carreg ym 1902, ond ym 1956 fe osodwyd yn ei le floc o wenithfaen (o Chwarel Trefor yn Sir Gaernarfon, sir enedigol Llywelyn) ar blinth ar ben twmpath isel.

 

Roedd brwydr Pont Irfon ger Llanfair-ym-Muallt rhwng lluoedd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd, a lluoedd Edward I yn drobwynt yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol. Mae ei bwysigrwydd yn deillio o’r ffaith bod Llywelyn yn farw a bod pob gobaith am Gymru annibynnol ar yr adeg honno wedi diflannu gyda’i farwolaeth. Felly rhoddir cryn sylw i’r digwyddiad hwn ym mron pob cronicl Cymraeg a Lladin cyfoes yn ogystal ag mewn gohebiaeth rhwng y brenin, ei swyddogion a chlerigwyr. Fodd bynnag, gan nad yw’r hanesion hyn yn gytûn, mae’n anodd cael darlun clir o’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Gwelediadau:
5764
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
24/03/2015

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (2)

I'm sure this collection is relating Llywelyn Ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd) as Llywelyn the Great (Llywelyn ap Iorwerth) died on 11th April 1240 at the abbey of Aberconwy.

You must be logged in to leave a comment