Gweithfeydd Haearn a Dur Cyfarthfa
Dyma gasgliad o ddelweddau o Weithfeydd Haearn a Dur Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Agorwyd y gwaith haearn ym 1765 gan Anthony Bacon a Dr William Brownrigg. Fodd bynnag, dan arweiniad Richard Crawshay, a ddaeth yn berchennog ar y gweithfeydd ym 1786 y datblygodd y busnes yn gyflym. Yn ystod y cyfnod hwn daeth Gwaith Haearn Cyfarthfa i’r amlwg fel un o brif gyflenwyr haearn, canon a pheli canon i’r Llynges Brydeinig. Arhosodd y gwaith haearn, ac yn ddiweddarach, y gwaith dur, ym meddiant y teulu Crawshay tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif, pan gafodd ei brynu gan GKN, perchnogion Gwaith Dur Dowlais.