Paul Robeson

Eitemau yn y stori hon:

  • 3,692
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,132
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,534
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,113
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Bywyd cynnar Robeson




Ganed Paul Leroy Robeson, yr ieuengaf o bump o blant, ar 9 Ebrill 1898 yn Princeton, New Jersey, i'r Parch. William Drew Robeson a Maria Louisa Bustill Robeson. Cafodd ei dad ei eni i gaethwasiaeth. Bu farw ei fam, athrawes, pan oedd ond yn bump oed. Nid oedd cyfleoedd i bobl ddu ifanc yn America pan oedd Robeson yn llanc, ond roedd ei fagwraeth wedi dysgu iddo ba mor bwysig oedd cael triniaeth deg a pheidio byth ag anobeithio.



Yn ei ysgol uwchradd yn Somerville, New Jersey, roedd Robeson yn ddisgybl hynod dalentog mewn amryw o feysydd, yn rhagori mewn chwaraeon, drama, canu, gwaith academaidd a dadlau. Ond dysgodd yn ifanc er y gallai ei dalentau amrywiol ddod â chlod a pharch, nid oeddent yn ennill iddo gydnabyddiaeth lwyr. Dywedodd un athro am ei ddisgybl mwyaf enwog a disglair: “Fe yw’r bachgen mwya’ dawnus i mi erioed ei ddysgu, tywysog o fachgen. Ond, ni allaf anghofio ei fod yn Negro.”



Enillodd Robeson ysgoloriaeth i Goleg Rutgers, New Jersey ym 1915. Er y gwrthwynebu hiliol a threisgar agored a wynebodd, daeth yn athletwr gwych yn arbenigo mewn pêl-fas, pêl-fasged, pêl-droed a rhedeg.




Prifysgol ac Actio




Aeth i astudio'r gyfraith ym mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd a derbyniodd ei radd ym 1923. Yno cyfarfu a phriododd Eslanda Cardozo Goode, y ferch ddu gyntaf i fynd yn bennaeth ar labordy patholeg. Gweithiodd Robeson fel clerc cyfreithiol yn Efrog Newydd, ond unwaith eto wynebodd wahaniaethu a gadawodd y practis gan fod ysgrifenyddes yn gwrthod cymryd cyfarwyddyd ganddo.



Dychwelodd Robeson i'w hoff ddrama a chanu. Ef chwaraeodd y prif gymeriad yn  All God's Chillun Got Wings gan Eugene O'Neill ym 1924. Roedd cynnwys hiliol y ddrama'n creu dadleuon a phrotest, ac aeth ymlaen i serennu mewn drama arall gan O'Neill – Emperor Jones. Mae'n cael ei adnabod orau o'r ddrama gerdd Showboat, lle newidiodd eiriau'r gân“Old Man River”. Mae ei 11 ffilm yn cynnwys Body and Soul, Jericho a Proud Valley, a wnaed yng Nghymru.




Ymweliad cyntaf Robeson â Chymru




Wedi iddo gyfarfod â glowyr o Gymru ar hap yn Llundain ym 1929, teimlodd Paul Robeson gysylltiad cryf â Chymru. Gwelodd ddiwylliant wedi'i adeiladu o amgylch gwerthoedd y gymuned, y gwaith a'r capel, a thraddodiad cerddorol a ddatblygodd allan o ymdrech a gorthrwm.



Ymwelodd Robeson â Chymru lawer gwaith. Aeth ar daith yn ne Cymru yn y 1930au, yn perfformio cyngherddau yn Aberdâr ac yn Aberpennar. Enillodd gydymdeimlad glowyr Cymru pan ganodd cymeriad David Goliath yn Jack Jones, ffilm Proud Valley o 1939 gyda Rachel Thomas. Ym 1949, dywedodd Robeson “Nid oes unman yn y byd rwy'n fwy hoff ohono na Chymru.”



Mae gyrfa gyngherddol Robeson yn darllen fel trwydded deithio teithiwr y byd: Efrog Newydd, Vienna, Prague, Budapest, Yr Almaen, Paris, Yr Iseldiroedd, Llundain, Moscow a Nairobi. Dysgodd o'i deithiau nad oedd hiliaeth mor gyffredin yn Ewrop ag yr oedd yn yr Unol Daleithiau. Yn yr Unol Daleithiau, ni fedrai mynd i mewn i theatrau drwy'r brif fynedfa na chanu heb frawychiad na phrotest, ond yn Llundain cafodd groeso a derbyniodd gymeradwyaethau sefyll. Credai Robeson yng nghyfanfydaeth cerddoriaeth ac wrth berfformio emynau ysbrydol a chaneuon gwerin diwylliannau pobloedd eraill, gallai hybu dealltwriaeth ryngwladol. Fel canlyniad, daeth yn ddinesydd y byd, yn canu dros heddwch a chydraddoldeb mewn pum iaith ar hugain.




Hawliau Sifil




Yn ystod y 1940au parhaodd llwyddiant Robeson ar y llwyfan, mewn ffilm ac mewn neuaddau cyngerdd, ond parhaodd hefyd i wynebu rhagfarn a hiliaeth. Wedi iddo ddarganfod bod yr Undeb Sofietaidd yn genedl oddefgar a chyfeillgar, dechreuodd brotestio yn erbyn yr elyniaeth Rhyfel Oer a oedd yn tyfu rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd. Dechreuodd ofyn pam ddylai Affro-Americanwyr gefnogi llywodraeth nad oedd yn eu trin yn gyfartal. Mewn cyfnod pan nad oedd anghytundeb yn cael ei oddef bron o gwbl, roedd Robeson yn cael ei weld yn elyn gan ei lywodraeth. Ym 1947, cafodd ei enwi gan Bwyllgor y Tŷ ar Weithgareddau Anamericanaidd.



Ym 1950, diddymodd Adran Wladol yr Unol Daleithiau ei drwydded deithio. Parhaodd ei gysylltiad â Chymru ac fe gafodd cefnogaeth oddi wrth bobl Cymru. Ym mis Hydref 1957 anerchodd Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl gyda galwad ffôn trawsiwerydd cudd. Yn y digwyddiad hanesyddol hwn galwodd am “Heddwch, urddas a digonedd i bawb”.




Eisteddfod 1958




Ym mis Gorffennaf 1958, cafodd Robeson ei drwydded deithio'n ôl. Ym mis Awst 1958, ymwelodd Paul ac Eslanda Robeson â Chymru a nhw oedd gwesteion arbennig Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy. Yn yr Eisteddfod, soniodd Paul am ei gariad at Gymru, gan ddweud “Rydych wedi rhoi siâp i 'mywyd – rwyf wedi dysgu gennych.”



Pan ofynnwyd iddo beth hoffai fel cofrodd o'i ymweliad, dewisodd lyfr emynau Cymraeg gan ei fod yn ei atgoffa o etifeddiaeth gerddorol gyfoethog ei bobl ei hun.



Ym mis Hydref 1958, mynychodd Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl, lle cyflwynwyd ef â lamp glöwr fechan. Ymwelodd â hen ffrindiau yng Nghanolfan Adferiad y Glowyr, Tal-y-garn.



Effeithiodd y blynyddoedd o ormes, ymosodiadau a gweithgarwch cyson ar iechyd Robeson. Bu raid iddo ymddeol oherwydd salwch.



Bu farw Paul Robeson ar 23 Ionawr, 1976, yn Philadelphia, Pennsylvania.



Mae bywyd Robeson wedi bod yn ysbrydoliaeth i filiynau o bobl ar draws y byd. Roedd ei deithiau ar draws Americaa thramor yn agor llygaid y byd i orthrwm. Agorodd ddrysau i berfformiadau rhynghiliol gyda'i ddramâu a'i ffilmiau. Arweiniodd ei safiad dewr yn erbyn gormes ac anghydraddoldeb yn rhannol at y mudiad hawliau sifil yn y 1960au. Fe fydd ei berthnasedd i'n dyfodol yma yng Nghymru'n parhau cyn gryfed ag erioed, wrth i bobl barhau i'w ddarganfod. Mae ei fywyd yn rhoi darlun eglur o'r gorffennol diweddar sy'n parhau i roi siâp i'n bywydau heddiw.