Thomas Picton (1758-1815)
'Galwyd Picton yn "ddihiryn" ac yn "fochyn o ddyn", ac yn ddiamau roedd yn gaethiwydd ac yn bensaer llywodraeth drefedigaethol giaidd ar ynys Trinidad. Ond rhaid cofio hefyd fod pennu unigolyn i'w gosbi a'i warthnodi wedi bod yn fodd i'r Goron a'r sefydliad Prydeinig guddio'r drefn o ddad-ddynoli, manteisio, treisio a llofruddio pobl gaethiwedig er mwyn bwydo economi'r Ymerodraeth Brydeining, a'r hiliaeth systemig a oedd yn sylfaen i'r drefn honno.' -- Marion Löffler (2024)