Fanny Price-Gwynne (1819-1901)
Awdur, darlunydd a dyngarwraig oedd Fanny Price-Gwynne o Ddinbych-y-pysgod. Ysgrifennodd nifer o deithlyfrau am ei thref enedigol. Ar ôl marwolaeth ei thad, roedd hi ymhél â sawl achos elusen a chymdeithasau lleol yn cynnwys creu ysbyty lleol a chymdeithas llongwyr drylliedig.