Skip to main content

Peter Sturgess RAF. ail Ryfel Byd

Mae'r casgliad hwn yn ymwneud â Peter Sturgess sydd heddiw yn byw yn Abergwaun. Yn ystod cyfnodau olaf yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Peter gyda'r Awyrlu Brenhinol yn India a Ceylon cyn dychwelyd yn ôl i'r DU a'i dadfyddino.

Daeth Peter a'i wraig, Rowena, yn Westywyr yn gyntaf yn Harlech ac yna yn Swydd Amwythig. Daeth Peter hefyd yn Brif Hyfforddwr Hedfan ar gleiderau yn RAF Cosford gerllaw ac yna ar ôl symud i Abergwaun am gyfnod byr roedd yn CFI yn hen ganolfan yr Awyrlu yn Nhredeml, Sir Benfro. Gorffennodd ei yrfa hedfan gyda Chlwb Hedfan y Mynydd Du yn Nhalgarth.

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys adroddiad ysgrifenedig wedi'i olygu yn dilyn cyfweliad sain (y cytunwyd arno gyda Peter a'i wraig), a llawer o ffotograffau o gyfnod Peter yn yr RAF ac wedi hynny. Cynhwysir hefyd gopïau o luniau a llyfrynnau gan deulu Rowena yn dangos perthynas agos a wasanaethodd yn y Corfflu Hedfan Brenhinol (RFC) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment