Carcharorion Rhyfel yr Ail Ryfel Byd
Eitemau sy'n cofnodi hanes Eidalwyr a'r Almaenwyr fu'n garcharorion rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac a fu'n byw mewn gwersylloedd yng Nghymru. Magodd rhai ohonynt gysylltiadau clos gyda'r gymuned o'u hamgylch a phan ddaeth diwedd y rhyfel penderfynodd rhai aros yng Nghymru a phriodi merched roeddent wedi eu cwrdd yn lleol.
Cafodd dros 1,000 o Eidalwyr gafodd eu dal yn Libia a Twnisia eu hanfon i'r gwersyll garchar yn Henllan ger Castellnewydd Emlyn yn 1942. Caniatawyd i garcharorion rhyfel Eidalaidd wirfoddoli i weithio ar y tir er mwyn llenwi'r bwlch o safbwynt yr angen am fwy o weithwyr amaethyddol, ac yn gyffredinol rhoddwyd cryn ryddid iddynt. Byddai'r rhai'n lletya ar y ffermydd lle roedden nhw'n gweithio hyd yn oed, ac yn cymysgu gyda phobl leol.
Daeth y mwyafrif o garcharorion Rhyfel Almaenaidd drosodd i Brydain yn ystod haf 1944 yn dilyn glaniadau D-Day yn Normandi. Caniatawyd i nifer ohonynt hwythau i weithio ar y tir, er na chroesawyd y penderfyniad hwn ar y dechrau. Carcharwyd eraill mewn gwersylloedd megis Gwersyll Garchar Island Farm ger Pen-y-bont ar Ogwr, ar safle a godwyd yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr o'r ffatri arfau gyfagos; tybir i dros 180 o uwch swyddogion o'r Almaen gal eu dal yma ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.