Byddin Merched y Tir yn yr Ail Ryfel Byd

Sefydlwyd Byddin Tir y Merched yn wreiddiol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf . Yn dilyn ei lwyddiant fe'i hailsefydlwyd eto ychydig cyn i'r Ail Ryfel Byd dorri yn 1939 er mwyn darparu llafur ychwanegol o fewn y byd amaeth ac i sicrhau nad oedd prinder bwyd ym Mhrydain yn ystod y rhyfel a'r blynyddoedd a ddilynodd.

Erbyn 1943 roedd bron i bum mil o ferched yn cyfrannu at ymdrech y rhyfel fel rhan o Fyddin Tir y Merched yng Nghymru, gan weithio oriau hir ym mhob tywydd. Roedd y merched yn dod o bob math o wahanol gefndiroedd ac wedi eu lleoli mewn amrywiol rannau o Gymru, gyda rhai wedi eu hanfon i weithio yma o dros y ffin.

Doedd gweithio o fewn y byd amaethyddol ddim yn rhywbeth a oedd yn gyfarwydd i bob un o'r merched, ond er gwaethaf hyn fe chwaraeodd pawb ran bwysig yn gweithio ar y tir gan gyfrannu at gynhyrchu bwyd. Byddent hefyd yn helpu ar y ffermydd trwy ymgymryd â dyletswyddau megis godro, wyna, aredig a gwneud gwaith cynnal a chadw a disgwylid iddynt drin peiriannau trymion yn ogystal â gwneud gwaith corfforol eu hunain. Byddai llawer o'r merched yn byw mewn hosteli tra bod eraill yn lletya yn y ffermydd roedden nhw'n gweithio arnynt; darparwyd dillad gweithio ymarferol ac esgidiau/welingtons i bawb er nad oedd gwisgo iwnifform yn orfodol. Pan gai'r merched eu rhyddhau o'u gwasanaeth roedd disgwyl iddynt ddychwelyd y rhan fwyaf o'r dillad a ddarparwyd iddynt.

Mae'r casgliad hwn yn dwyn ynghyd ffotograffau ac effemera eraill sy'n berthnasol i fywyd a gwaith Byddin Tir y Merched yng Nghymru, ac mae hefyd yn cynnwys hanes llafar sy'n cofnodi sut brofiad oedd hi i ferch gyfrannu at ymdrech y rhyfel fel aelod o'r fyddin hon.

Mae 29 eitem yn y casgliad

  • 326
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 229
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 242
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,916
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 150
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 183
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 405
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,873
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,366
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,117
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,054
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 297
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,105
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 328
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi