Ymateb creadigol i recordiadau sain wedi ysbrydoli gan y Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain 2018-2021

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 10 Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain sydd wedi’u sefydlu ledled y DU i gyd-weithio gyda’r Llyfrgell Brydeinig ar y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS). Nod y prosiect, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw diogelu hanner miliwn o recordiadau sain prin ac sydd mewn perygl o gael eu colli, gwella mynediad at y synau, a darparu rhaglen o weithgareddau dysgu ac ymgysylltu.

Fel rhan o'r Prosiect DETS, cymerodd cyfranogwyr o bob rhan o Gymru ran mewn gweithdai addysgiadol a chymunedol. Fe wnaethant wrando ar gyfweliadau amrywiol o Archif Sain y Llyfrgell Genedlaethol a defnyddio'r recordiadau i ymateb ac ysbrydoli darn newydd o waith. Y prosiectau oedd:

• Cyfansoddwyr yn Creu
• Mapio Lleisiau’r Tir
• Beth ydw i’n meddwl amdano wrth feddwl am wrando
• Seiniau’r Goedwig: Ddoe a Heddiw
• Gweithdai Ysgolion
• Gweithdai Prifysgol

Mae 55 eitem yn y casgliad

  • 351
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 323
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 293
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 175
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 162
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 240
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 609
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi