Cerrig Siôn Crydd
Cerrig Siôn Crydd
Disgrifiadau
Cerrig Sion Crydd Allan ir môr ir gorllewin o geg Afon Dwyfor mae rhes o dair ar ddeg o greigiau or enw Cerrig Sion Crydd. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir eu gweld neu pan fydd y môr yn dawel a'r d?r yn glir. Crydd o Lanystumdwy oedd Sion a oedd weithiaun cyfeirio atynt fel ei fuchod felly roedd rhai yn eu galwn Wartheg Sion Crydd. Yn ystod yr Ail Ryfel, ac am flynyddoedd lawer wedi hynny, roedd targed haearn a bren wedi'i osod arnynt a oedd yn cael ei ddefnyddio gan awyrennau o'r ysgol fomio ym Mhenrhos ac ysgol hyfforddi magnelau y Llynges Frenhinol ym Mhenychain. Roedd yn lle da i ddal mecryll.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment