Cynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru
Detholiad o rai o gynyrchiadau Cwmni Theatr Cymru yn yr 1960au a'r 1970au trwy lygad camera Geoff Charles, sy'n cynnwys nifer o actorion Cymraeg amlycaf Cymru - megis Sharon Morgan, Dewi Pws Morris, Elen Roger Jones, Stuart Jones, Grey Evans, Marged Esli, Iola Gregory a Dyfan Roberts.
Bu Wilbert Lloyd Roberts yn cyfarwyddo cynyrchiadau iaith Gymraeg y Welsh Theatre Company oddi ar 1968, ond yn 1973, gadawodd ei swydd fel Pennaeth Drama BBC Cymru a sefydlu Cwmni Theatr Cymru. Yn y blynyddoedd cyntaf byddai'r cwmni yn perfformio mewn lleoliadau bach lleol ar hyd a lled y wlad, gan ddefnyddio hen gapel y Tabernacl ym Mangor fel gweithdy ymarfer. Yna, yn 1975 symudodd i'w gartref parhaol yn Theatr Gwynedd, Bangor a pharhaodd y cwmni i berfformio tan ddechrau'r 1980au.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment