Michael Evans (1985-). Y Llynges Frenhinol, Llanelli

Michael Evans remembers his time in the Royal Navy.

Cafodd Michael Evans ei eni yn Ysbyty Treforys yn 1985. Bu'n byw yn Llanelli am chwe mis cyntaf ei fywyd, ac yna symudodd gyda'i deulu i amrywiol leoliadau, gan fod ei dad yn aelod o'r Llynges Frenhinol. Wedi iddo ymuno gyda chlwb rygbi lleol a oedd a nifer o aelodau o'r Llynges yn gysylltiedig ag ef, penderfynodd ymuno gyda'r Llynges Brydeinig a chafodd ei dderbyn i'r Britannia Royal Naval College fel 'Midshipman' er mwyn dechrau hyfforddi ar gyfer y Swyddfa Rhyfela. Gwasanaethodd Michael mewn amrywiaeth o swyddi ar y môr ac ar y tir, cyn cael ei ryddhau ohrewydd rhesymau meddygol. Wedi iddo adael y Llynges, llwyddodd i ennill gradd BSc Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Plymouth ac yna symudodd i'r Unol Daleithiau lle mae bellach yn byw gyda'i deulu.

Mae Michael hefyd yn ŵyr i Eric Evans, cyn-filwr gydag ymgyrch Burma yn yr Ail Ryfel Byd ac aelod o'r Awyrlu Brenhinol, a mab i'r Comander Edward Evans, y Llynges Frenhinol (wedi ymddeol). Gellir canfod cyfrifon Eric ac Edward yn Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 286
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 293
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi