Archif Rufeinig 'The Caerwent Exploration Fund'
Rhwng 1899 - 1913 datguddiodd y 'Caerwent Exploration Fund' ddwy draean o'r dref Rufeinig Venta Silurum (Caerwent). Cafodd yr archif, sy'n cynnwys nifer o arteffactau hynod, ei chyflwyno i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn 1916. Hyd y dydd hwn ystyrir y casgliad i fod yn un o'r rhai pwysicaf o blith casgliadau o deunyddiiau Rhufeinig a ddarganfuwyd yng Nghymru. Mae llawer o'r arteffactau yn cael eu harddangos yn arddangosfa Rufeinig Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.