Silffoedd Gwag yn y Siop, COVID 19, 2020

Bydd llawer yn cofio'r ofn a ddaeth yn sgil cyfnod y cloi wrth i bobl fynd allan i siopa mewn panig Cyn i'r Llywodraeth gyhoeddi cyfnod y cloi fe wnaeth siopau werthu allan o bapur toiled, pasta, bwyd tun, sebon, glanweithydd dwylo, diheintyddion a thabledi lladd poen, a phan gyrhaeddodd cyfnod y cloi, fe effeithiwyd ar gyflenwadau nifer fawr o fwydydd, rhywbeth a barhaodd drwy gydol y cyfnod yma. Roedd gweithwyr allweddol a staff y GIG a fu’n gweithio oriau hir yn cael trafferth i brynu bwydydd ar ddiwedd eu sifftiau gan nad oedd dim cynnyrch ar ôl yn y siopau. Byddai pobl yn ciwio y tu allan i siopau cyn iddynt agor i brynu eu bwydydd tra bod llawer o deuluoedd yn cael trafferth i roi bwyd ar y bwrdd, ac yn gorfod dibynnu ar yr elusennau parseli bwyd. Roedd slotiau siopa bwyd ar-lein yn llawn am wythnosau, os nad misoedd, ymlaen llaw. Gwelwyd rhai gwefannau yn torri oherwydd y niferoedd uchel o bobl oedd yn ceisio eu defnyddio; byddai nifer yn aros i fyny tan hanner nos i weld a fyddai mwy o slotiau archebu bwyd yn cael eu hagor.
Yn ystod cyfnod y cloi, dechreuodd llawer o siopau glustnodi amseroedd penodol oedd yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol, staff y GIG a'r henoed gael siopa cyn pawb arall, fel arfer am ychydig o oriau ddwywaith yr wythnos.
Mae'r lluniau yn y casgliad hwn yn dangos y silffoedd gwag mewn siopau ledled Cymru cyn ac yn ystod y cyfnod y cloi 2020.

Mae 65 eitem yn y casgliad

  • 311
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 277
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 272
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 344
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 310
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 319
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 305
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 308
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 312
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 322
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 323
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi