Bywgraffiad CY:
Does dim dwywaith bod cyfnod y cloi yng Nghymru wedi newid y ffordd rydym yn byw o ddydd i ddydd; sut rydyn ni’n siopa, yn cyfathrebu, yn gweithio ac yn gwneud ymarfer corff.
Gan weithio gyda’n partneriaid, rydym am greu capsiwl amser digidol ar ein gwefan er mwyn cofnodi stori pobl Cymru yn ystod cyfnod y cloi. Byddwn yn casglu delweddau, recordiadau a hanesion personol yn ymwneud â'r pandemig i helpu cenedlaethau'r dyfodol ddeall sut wnaeth Cymru ymdopi yn ystod y cyfnod ansicr hwn.