Atodiadau 'Newyddion Ymgyrchu dros Heddwch' CND Cymru 1992-2006

Roedd ' Newyddion Ymgyrchu dros Heddwch ' yn Atodiad achlysurol i gylchgrawn cefnogwyr chwarterol CND Cymru, ' Heddwch' a gynhyrchwyd gan Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear Cymru i alluogi grwpiau actifiaeth lleol ledled Cymru gymryd rhan yn effeithiol mewn ymgyrchoedd rhyngwladol pwysig ar heddwch a chyfiawnder. Maent yn cynnwys taflenni briffio a gwybodaeth ar bynciau yn amrywio o Ryfel Irac, i Drethi Heddwch.

'Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear Cymru, a gyhoeddir yn fras bob chwarter, o 1991 hyd heddiw. Fe'i cyhoeddwyd yn y lle cyntaf dan yr enw 'Ymgyrch Cymru' rhwng 1985 ac 1990, yn dilyn sefydlu CND Cymru fel rhwydwaith ymgyrchu annibynnol o 1981.

Mae CND Cymru, Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear Cymru, yn gweithio dros heddwch rhyngwladol, cyfiawnder a diarfogi, a thros fyd lle mae'r adnoddau enfawr sy'n cael eu neilltuo i filwriaeth yn cael eu hailgyfeirio i wir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Mae pob rhifyn o 'Heddwch ' ac ' Ymgyrch Cymru ' yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd ymgyrchoedd a gweithgareddau CND Cymru gyfan, gyda llawer o gyfeiriadau penodol at gymunedau, gweithredwyr a mudiadau Cymreig - ffynhonnell amhrisiadwy i archwilio treftadaeth Heddwch Cymru dros y 4 degawd diwethaf.

Mae archif CND Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, a gafodd ei digido gan dîm 'Cymru Dros Heddwch' WCIA, yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau cefnogwyr CND Cymru a'r cofnodion rhwng 1981 a heddiw, gan gynnwys:

• Cylchgrawn 'Ymgyrch Cymru' 1-20 (1985-1991)
• Cylchgrawn 'Heddwch' 1-74 (1991 i 2020)
• 'Newyddion Gweithredu Heddwch' Atodiadau 1-14 (1992 i 2006) a thaflenni gwybodaeth
• Casgliad 1982 'Ymgyrch byncer Pen-y-bont ar Ogwr ' yn cynwys cylchlythyrau, toriadau o'r wasg a thystiolaeth ysgrifenedig.

Mae archifau papur CND Cymru yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gellir eu chwilio drwy gatalog LlGC o dan 'CND Cymru National Archive'.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 422
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 333
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 359
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 392
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi