Ffermio Cymysg - Agweddau Hanesyddol a'r Dyfodol

Yn y gorffennol, roedd ffermio cymysg – tyfu cnydau yn ogystal â magu da byw – yn llawer mwy cyffredin ym Mïosffer Dyfi, ac yng Nghymru yn gyffredinol. Ein nod yw adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol, ond gan edrych i'r dyfodol, a helpu i gyflwyno'r achos dros amaethyddiaeth gymysg gynaliadwy ar raddfa ehangach a thros economïau cynhyrchu bwyd lleol mwy gwydn. Rhan ganolog o weledigaeth ein prosiect yw cydnabod mai ffermydd bach, teuluol oedd conglfeini economi, diwylliant a thirwedd wledig Cymru yn y gorffennol, ac mai nhw hefyd yw conglfeini'r presennol a'r dyfodol.

Nod y prosiect peilot hwn a ariennir gan LEADER a sefydliad teuluol Ashley (o Ebrill 2019 hyd Hydref 2020) yw mapio rhai o'r newidiadau hyn, er mwyn dangos yr hyn sy'n bosibl ac er mwyn ysgogi rhywfaint o drafodaeth. Y prif ffordd y byddwn yn gwneud hyn yw trwy integreiddio amrywiaeth o adnoddau cysylltiedig ar-lein i borth gwybodaeth – porth sy'n seiliedig ar fapiau ac sy'n dangos sut mae amaethyddiaeth wedi datblygu yn ardal bïosffer Dyfi dros y 150 mlynedd diwethaf. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer dangos sut y gellir defnyddio technoleg fodern i nodi posibiliadau megis:
- caeau sy'n addas ar gyfer adfer gweithgareddau ffermio hanesyddol
- ardaloedd storio carbon
- cnydau a fydd yn tyfu yn y dyfodol o dan wahanol amgylchiadau newid hinsawdd

Yn unol â'r pwyslais ar wybodaeth gan ffermwyr; datrysiadau lleol, economïau lleol, a chadwyni cyflenwi byr i farchnadoedd lleol, mae'r prosiect wedi bod yn casglu hanesion llafar gan ffermwyr o'r genhedlaeth hŷn yn yr ardal sy'n cofio pan oedd amaethu yn yr ardal yn fwy cymysg. Bydd yr hanesion llafar hyn yn cael eu hintegreiddio i'r Porth Gwybodaeth sydd gennym ar y gweill.

Mae 22 eitem yn y casgliad

  • 452
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 505
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 337
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 607
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 312
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 295
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 305
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 667
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 415
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 365
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 597
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 583
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 395
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 544
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 317
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 323
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 364

  • 492
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 369

  • 519
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 355